Mwy o Newyddion
Galw am gynhyrchu mwy o gaws arbenigol gogledd Cymru wythnosau wedi lansio
Mae gwerthiant caws arbenigol newydd, sy’n cael ei wneud yng ngogledd Cymru gan ddefnyddio hen rysáit yn dyddio’n ôl i’r 18fed ganrif, eisoes yn rhagori y targed, a hynny wythnosau yn unig ar ôl ei lansiad swyddogol.
Caws hufennog Aberwen yw’r cyntaf i gael ei gynhyrchu yn y llaethdy newydd yng Nghanolfan Bwyd Cymru Bodnant, canolfan fwyd arloesol £6.5miliwn yn Nyffryn Conwy.
Gan ddilyn egwyddorion Bwyd Cymru Bodnant, sef hyrwyddo cynhyrchwyr lleol a lleihau milltiroedd bwyd, mae’r llaeth sy’n gwneud caws Aberwen yn dod o fuches odro ar fferm un filltir yn unig i ffwrdd.
Oherwydd y galw cynyddol, mae’r cynnyrch presennol o 480kg yr wythnos eisoes yn gorfod cynyddu. Mae’r caws yn cael ei wneud â llaw, gan ddefnyddio dulliau traddodiadol, a’i baratoi mewn darnau crwn 11kg ac olwynion 3kg wedi’u lapio mewn lliain caws.
Mae gan y caws flas hufennog gyda naws citraidd. Mae’r enw aber yn cyfeirio at aber Afon Conwy ac mae wen yn cyfeirio at liw’r caws.
Mae’r fuches o 80 o wartheg Friesian sy’n darparu’r llaeth i wneud y caws, yn pori ar laswellt tir fferm Tal-y-cafn Uchaf nepell o Afon Conwy. Mae’r llaeth hefyd yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu menyn Bodnant ac amrywiaeth o hufen iâ blasus yn uned llaethdy’r ganolfan fwyd.
Mae’r ffermwr llaeth, Arfon Jones, yn cludo’r llaeth o’i barlwr godro mewn tanc sy’n cael ei dynnu gan dryc i Ganolfan Bwyd Cymru Bodnant, bob yn eildydd.
Roedd y rysáit wreiddiol yn cael ei defnyddio i gynhyrchu caws â llaw yn Siroedd Dinbych a’r Fflint yn y gogledd ac yn Swydd Gaer, Swydd Amwythig a Swydd Stafford dros y ffin yn y 18fed a’r 19eg ganrif.
Byth ers i siop Bwyd Cymru Bodnant gael ei hagor gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru a Duges Cernyw ym mis Gorffennaf 2012, mae brand Aberwen wedi bod ar werth yno. Er hynny, yng Nghanolfan Technoleg Bwyd Ynys Môn, yng Ngholeg Menai, Llangefni, y gwnaed y cynnyrch yn wreiddiol. Bu criw Llangefni’n cynorthwyo Bwyd Cymru Bodnant i wneud gwaith ymchwil a datblygu rysáit caws Aberwen. Ar ôl perffeithio’r rysáit honno, dyma ddechrau gwerthu’r caws yn y ganolfan fwyd.
Yn ôl Aled Rowlands, Rheolwr Llaethdy Bwyd Cymru Bodnant: “Mae Aberwen yn boblogaidd iawn ymhlith ein cwsmeriaid yma yn y deli ym Modnant – dyma’r caws sy’n gwerthu orau ar hyn o bryd. Mae cyfanwerthwyr yn y gogledd hefyd yn fodlon iawn gyda’r caws, sydd bellach ar gael i’w brynu mewn siopau delicatessen ledled gogledd Cymru a Swydd Gaer. Rydym ar hyn o bryd yn cynnal trafodaethau â chyflenwyr arbenigol yn Llundain ac efallai y bydd y cogyddion gorau yn defnyddio caws Aberwen yn eu tai bwyta cyn hir! Rydym yn falch iawn bod cynnyrch arbenigol o Ogledd Cymru wedi bod mor llwyddiannus gydag arbenigwyr bwyd, cwsmeriaid siopau delicatessen a phobl leol.”
Mae Rheolwr y Llaethdy, sy’n 46 oed ac yn hanu o Forfa Nefyn, Llŷn, yn egluro’r broses: “Mae’r llaeth, rhyw 1,500 litr ohono, yn cyrraedd ganol y bore, ar ôl i Arfon orffen godro.
“Byddwn yn twymo’r llaeth i dymheredd uchel, ychwanegu meithriniadau naturiol a gadael i’r ceuled ddechrau dod at ei gilydd. Byddwn yn tynnu’r maidd, sef yr hylif sydd ar ôl o’r ceuled, ac yn torri’r caws i’w siâp a’i osod mewn mowld. Yna, â llaw, byddwn yn lapio’r darnau crwn 11kg a’r olwynion caws 3kg mewn lliain caws.
“Mae’r caws yn aeddfedu yn ein storfeydd pwrpasol yn y ganolfan fwyd. Ymhen tri mis, mae caws Aberwen yn barod i’w werth ar y silffoedd. Mae gennym dîm ardderchog yma ym Modnant ac rydym i gyd yn falch bod y cwas cyntaf a gynhyrchwyd yma yn ein llaethdy yn gwerthu fel slecs.”
Mae Aled, sy’n dad i ddau o blant, yn gyfarwydd iawn â chynhyrchu caws. Mae’n gweithio yn y diwydiant llaeth ers dros 20 mlynedd a than yn ddiweddar bu’n gweithio fel Rheolwr Gweithrediadau yn Hufenfa De Arfon yn Llŷn.
Wrth sôn am flas nodedig y caws Cymreig caled, meddai Aled: “Mae’r cwsmeriaid yn mwynhau blas hufennog y caws, sydd â naws citraidd. Mae’r gwead ychydig yn friwsionllyd ac mae’r caws yn addas iawn ar gyfer ei bobi a’i roi ar dost. Mae lawn cystal hefyd fel caws blasus i’w fwyta gyda bisgedi. Rydym hefyd wedi sicrhau y gall cwsmeriaid sy’n llysieuwyr fwynhau’r caws.
“Rydym yn awyddus iawn i barhau i ddefnyddio’r dulliau traddodiadol er mwyn gwneud caws Aberwen, gan gynnwys y dull traddodiadol o lapio’r caws mewn lliain. Ein hethos fydd parhau i ymdrechu i wneud caws sydd â blas o ansawdd uchel, gan ddefnyddio dulliau traddodiadol mewn llaethdy modern.”
Mae gwybodaeth bellach am Ganolfan Bwyd Cymru Bodnant ar gael yn www.bwydcymru-bodnant.co.uk
Llun: Ffermwr llaeth, Arfon Jones gyda Rheolwr Llaethdy Bwyd Cymru Bodnant, Aled Rowlands yn dathlu llwyddiant eu caws arbenigol newydd, Aberwen gaiff ei gynhyrchu’n y ganolfan fwyd ym Modnant