Mwy o Newyddion
Galw am weithredu er mwyn ymladd yn erbyn anghydraddoldeb
Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi galw am weithredu ar frys er mwyn brwydro yn erbyn anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, arwahanu a stereoteipio yn y gweithle. Bydd Jill Evans yn cynnal seminar ym Mrwsel ar Ddydd Mercher (5/6/13) er mwyn lansio’r adroddiad newydd gan Chwarae Teg, 'Lle Menyw… '. Mae’r ymchwil yn edrych ar y rhwystrau sy’n bodoli i fenywod yn y gweithle yng Nghymru. Dywed yr adroddiad, er y cafwyd cynnydd yn ystod y blynyddoedd diweddaraf, ceir problemau mawr o hyd ac ychydig iawn o fenywod sydd yn dal y swyddi gorau yng Nghymru.
Yn ôl yr adroddiad, mae menywod yn ffurfio 47% o weithlu Cymru ond yn dal 26.2% yn unig o’r swyddi uchaf mewn gwleidyddiaeth, 15.1% o’r swyddi gorau yn y cyfryngau, a 10.2% o swyddi cyfarwyddwyr ym musnesau mwya’r Deyrnas Gyfunol. Mae Jill Evans wedi bod yn galw am ddeddfwriaeth er mwyn sicrhau bod mwy o fenywod ar fyrddau’r cwmnïau mwyaf ac mae hi wedi croesawi cynnig drafft Comisiwn Ewrop er gwotâu.
Mae’r seminar hefyd yn edrych ar lwyddiant project ‘Cenedl Hyblyg’ Chwarae Teg sydd yn annog cyfranogiad gan fenywod yn y gweithle ac sydd wedi derbyn nawdd sylweddol o’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.
Dywedodd Jill Evans ASE: "Rydym wedi dod yn bell yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, ond mae rhwystrau mawrion yn parhau i wynebu menywod yn y gweithle sy’n annerbyniol. Byddai cael eu gwared a sicrhau bod menywod yn gallu chwarae rhan lawn wrth adeiladu’r economi nid yn unig yn fater o gyfiawnder, mae’n hanfodol. Mae angen yr holl dalentau sydd ar gael arnom ni i fod yn fwy llwyddiannus.
"Rwy’n croesawi’r adroddiad hwn, sydd yn gyfraniad mawr i’n dealltwriaeth o’r heriau. Rhaid i’r llywodraeth weithredu nawr er mwyn sicrhau bod gyda ni wir gydraddoldeb. Mae menywod yn ffurfio 47% o weithlu Cymru ond prin 10.2% o swyddi cyfarwyddwyr ym musnesau blaenllaw’r Deyrnas Gyfunol. Mae hynny hyd yn oed yn is na’r 16.8% o fenywod yng nghwmnïau mwyaf Ewrop a restrir yn gyhoeddus. Mae hyn er gwaetha’r ffaith ar hyd yr UE, taw menywod sydd yn ennill 60% o holl gymwysterau prifysgol a’u bod yn fwy niferus na dynion ym myd busnes, rheoli a chyfadrannau’r gyfraith.
Ychwanegodd Jill Evans ASE: "Gallwn wneud gwir wahaniaeth drwy gyflwyno cwotâu ar gyfer menywod ar fyrddau cwmnïau. Mae Comisiwn Ewrop wedi cynnig cynllun uchelgeisiol lle byddai gofyn i gwmnïau mawrion gael lleiafswm o 40% o fenywod ar eu byrddau. Mae cwotâu eisoes wedi bod yn llwyddiannus yn Norwy, a gyflwynodd targedau gorfodol ac sydd wedi cyrraedd y nod hwnnw o 40%. Mae gan y Ffindir gwota o 40% ar gyfer cwmnïau yn y sector gyhoeddus, ac mae hyn hefyd wedi cael ei gyflawni.
"Mae gwaith Chwarae Teg yn amhrisiadwy ac rwy’n falch i helpu i’w gyflwyno i wledydd eraill yn Ewrop. Gwnaed project y 'Genedl Hyblyg’ yn bosibl drwy nawdd gan yr Undeb Ewropeaidd, sydd yn dangos unwaith eto pa mor bwysig yw aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd i Gymru. Mae’r cyfuniad o sefydliadau fel Chwarae Teg a chymorth ariannol gan yr Undeb Ewropeaidd yn golygu y gallwn weld y ffordd tuag at gryfhau ein heconomi a galluogi menywod i gyflawni eu potensial, ond mae angen i’r llywodraeth gymryd camau ar frys er mwyn peri i hwn ddigwydd."