Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Mehefin 2013

Herio Gweinidog am gyflogau swyddogion

Mae Gweinidog Llywodraeth Leol cysgodol Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas, wedi herio Llywodraeth Lafur Cymru i weithredu ar lefelau uchel cyflogau uwch-swyddogion neu fod mewn perygl o gael eu gweld fel y blaid a ganiataodd i gyflogau anhygoel o uchel  fynd allan o bob rheolaeth.

Mae Rhodri Glyn Thomas wedi arwain cyfraniad Plaid Cymru i’r Bil Democratiaeth Leol sydd yn mynd trwy’r broses ddeddfu ar hyn o bryd yn y Cynulliad Cenedlaethol.  Cyflwynodd y blaid welliannau fyddai’n sicrhau, ymysg pethau eraill, y byddai’r penderfyniad am lefelau cyflog uwch-swyddogion yn cael ei gymryd o ddwylo cynghorau a’i osod gan banel cyflogau annibynnol – tebyg i’r hyn sy’n digwydd i gynghorwyr etholedig.

Mae’r Gweiniog Llywodraeth Leol Lesley Griffiths ac yn wir y Prif Weinidog Carwyn Jones hyd yma wedi gwrthwynebu galwadau Plaid Cymru am osod cyflogau uwch-swyddogion yn annibynnol. Yng nghyfnod Pwyllgor y Bil, trechwyd gwelliannau Plaid Cymru gan bleidlais fwrw Cadeirydd y pwyllgor.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas ei fod yn credu mai Plaid Cymru sydd yn deall y farn gyhoeddus ac y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi eu cynigion. Dywedodd hefyd fod Plaid Cymru â meddwl agored petai Llywodraeth Cymru am gyflwyno eu hawgrymiadau eu hun. Mae’n gofyn am gyfarfod gyda’r Gweinidog Llywodraeth Leol i drafod y mater.

Wrth siarad cyn Trydydd Darlleniad y Bil Democratiaeth Leol, dywedodd Gweiniog Llywodraeth Leol cysgodol Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas:

“All hi ddim bod yn iawn fod rhai gweithwyr cyngor ar gyflogau isel yn mynnu cyflog byw tra bod cyflogau prif swyddogion cynghorau yn dal i godi. Daeth yn gynyddol glir dros y misoedd diwethaf fod pobl Cymru yn cefnogi ymdrechion Plaid Cymru i ddwyn  cyflog uwch-swyddogion dan reolaeth. 

“Mae cyflogau uwch-swyddogion yn cael eu gosod yn unigol gan bob awdurdod lleol. Arweiniodd hyn at 22 gwahanol bolisi cyflog ledled Cymru, er i gynghorau gael gorchymyn i gydweithio ar nifer o faterion.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru estyn allan a derbyn ein gwelliannau neu ddod â’u cynigion eu hunain gerbron i reoli cyflogau uwch-swyddogion. Fel arall, byddwn yn creu cyfraith nas cefnogir gan hanner y Cynulliad Cenedlaethol. Rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn derbyn fy nghais am gyfarfod fel y gallaf drafod ein cynigion gyda hi.

“Rydym eisiau gweld panel cyflogau annibynnol yn gosod tal swyddogion cyngor – tebyg i’r trefniadau presennol ar gyfer cynghorwyr etholedig. Fodd bynnag, fe fuasem, wrth gwrs, â meddwl agored petai Llywodraeth Cymru am gynnig eu hawgrymiadau hwy.

“Byddwn yn cyflwyno gwelliannau yng ngham nesaf y Bil fel y gall pob Aelod Cynulliad gofnodi eu teimladau am gyflogau uwch-swyddogion.

“Mae Plaid Cymru yn gwybod beth yw barn y cyhoedd ac y mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu. Os yw’n dewis peidio, bydd y Blaid Lafur yn cael ei gweld am byth fel y blaid a gefnogodd weld cyflogau anhygoel o uchel yn mynd allan o reolaeth yn llwyr.”

Llun: Rhodri Glyn Thomas

Rhannu |