Mwy o Newyddion
Dysgu mwy am hanes Lloegr nac am eu gwlad eu hunain
Mae Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Cwricwlwm Cymru ar gyfer ysgolion Cymru i ddisodli’r drefn bresennol lle mae’r Cwricwlwm Cymreig yn rhyw fath o ychwanegiad i’r Cwricwlwm ‘Cenedlaethol’ a luniwyd ar gyfer Lloegr.
Mewn ymateb i adroddiad interim (Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru) gan dasglu arbennig, a sefydlwyd gan Leighton Andrews, dan gadeiryddiaeth Dr Elin Jones, dywedodd llefarydd ar ran y Ganolfan “fod yr adroddiad yn dangos yn glir fethiant llwyr y drefn bresennol, gan nad oes rheidrwydd ar ysgolion i sicrhau fod hanes Cymru’n ganolog i’w meysydd llafur; mae hynny’n parhau i ddibynnu ar fympwy athrawon unigol. Mae’n fater o dristwch mawr mai ‘profiad y tasglu yw bod nifer o ddysgwyr yn ysgolion Cymru yn dysgu mwy am hanes Lloegr nac am hanes eu bro a’u gwlad eu hunain’.”
Wedi cyfnod o ymgynghori, bydd y tasglu’n cyflwyno ei adroddiad terfynol i Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, ym mis Gorffennaf a bydd yntau’n cyhoeddi ei argymhellion ym Medi 2013.
Ychwanegodd y llefarydd “fod y Ganolfan yn croesawu argymhelliad y tasglu ‘y dylid integreiddio’r dimensiwn Cymreig ymhob pwnc’ ac na ddylid ei gyflwyno trwy ddisgyblaeth hanes yn unig.”
“Croesawn hefyd y datganiadau clir a chadarn ‘y dylai straeon Cymru fod yn rhan ganolog o unrhyw gwrs hanes ar bob lefel yng Nghymru’ ac na ‘ddylid ystyried hanes Cymru fel rhywbeth i’w atodi i hanes Lloegr’.”
“Yr hyn sydd ei angen felly yw cwricwlwm cenedlaethol ar gyfer Cymru’n benodol a fydd yn rhoi lle canolog i’r profiad Cymreig yng nghyd-destun gweddill gwledydd Prydain, Ewrop a’r byd i ddisodli’r drefn ddryslyd bresennol lle mae’r ‘Cwricwlwm Cymreig’ yn atodiad yn unig i ‘Gwricwlwm Cenedlaethol’ Lloegr.”