Mwy o Newyddion
Gofyn am farn y cyhoedd am gwricwlwm ‘Penodol i Gymru’
Gofynnir am sylwadau athrawon, rhieni, pobl ifanc ac eraill ar adroddiad interim sy’n cynnig math newydd o gwricwlwm i ysgolion a fyddai’n rhoi’r 'dimensiwn Cymreig’ wrth wraidd yr hyn sy’n cael ei ddysgu mewn ysgolion.
Mae’r ddogfen sydd wedi’i pharatoi gan banel o academyddion ac athrawon yn argymell y dylai’r cyd-destun Cymreig fod ‘yn fan cychwyn’ yn hytrach nag ‘atodiad’ wrth ddatblygu’r cynnwys ar gyfer pob pwnc.
Mae’r grŵp yn argymell ymhellach y dylid cael ffordd newydd o ddysgu hanes a fyddai'n caniatáu i blant a phobl ifanc cael eu 'trochi' yn hanes Cymru'n gyntaf ac yna, wedyn, yn eu galluogi i gysylltu'r wybodaeth honno â hanes y DU a'r byd ehangach.
Trwy ymgynghori ar lein ac mewn cyfarfodydd cyhoeddus, mae'r Grŵp Ymgynghori annibynnol ar y Cwricwlwm Cymreig a dysgu Hanes yng Nghymru eisiau casglu barn y cyhoedd ar y materion hyn cyn cyflwyno'i adroddiad terfynol i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau ym mis Gorffennaf.
Mae cadeirydd y grŵp, yr hanesydd Dr Elin Jones, yn annog pawb gyda rhan yn y system addysg yng Nghymru i gyflwyno eu sylwadau’n yn ystod yr wythnosau i ddod cyn y daw’r ymgynghoriad i ben ar 21 Mehefin.
Dywedodd fod y Grŵp o’r farn ei bod yn bwysig edrych y tu hwnt i ofynion y Cwricwlwm Cymreig, sydd, ar hyn o bryd, yn gofyn fod pob pwnc yn cael ei ddysgu gan gynnwys dimensiwn Cymraeg.
Eglurodd Dr Jones: “Mae llawer o bethau wedi digwydd ers dyfodiad Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru a Lloegr 25 o flynyddoedd yn ôl, gan gynnwys sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a datganoli llawer o bwerau gan gynnwys addysg. Mae’r Grŵp o’r farn ei fod yn bryd edrych unwaith eto ar y cwricwlwm a gafodd ei baratoi yn wreiddiol ar gyfer Lloegr ac i ystyried newid ei ffocws. Fe ddylen ni fod yn meddwl am gwricwlwm lle mae Cymru’n fan cychwyn, yn hytrach nag yn atodiad neu’n ddimensiwn arall i’w ychwanegu.”
Mae hyn yn rhywbeth a fyddai’n cael ei ystyried yn normal yn y rhan fwyaf o wledydd eraill y byd oherwydd y ffordd orau o ddysgu yw symud o’r hyn sy’n gyfarwydd i ni i’r hyn sy’n anghyfarwydd,” ychwanegodd.
Wrth gyfeirio at ddysgu hanes, meddai: "Rydyn ni'n credu y dylai athrawon ddal i fod yn rhydd i ddewis manylion yr hyn y maen nhw'n ei ddysgu a sut y maen nhw'n ddysgu hynny. Ond rydyn ni'n bryderus fod hanes Cymru'n cael ei weld weithiau fel atodiad i hanes Lloegr a bod rhai pobl yn ystyried mai hynny yw 'hanes go iawn'. Rydyn ni o'r farn, felly, y dylai disgyblion yng Nghymru gael eu trwytho yn hanes ein gwlad ni, ond eu bod hefyd yn ystyried cyd-destun ehangach yr hanes hwnnw.
Dywedodd Dr Jones fod y Grŵp yn cydnabod fod eu hargymhellion yn golygu newid sylfaenol mewn ffocws ac, felly, y dylai pawb sydd â rhan yn y system addysg wneud eu sylwadau’n hysbys.
Mae fideo’n cyflwyno’r adroddiad interim a’r argymhellion wedi’i phostio ar wefan Dysgu Cymru ynghyd â chwestiynau i alluogi pobl i fynegi’u barn. www.learning.wales.gov.uk
Bydd cyfarfodydd cyhoeddus i drafod y problemau ynghylch yr adroddiad yn cael eu cynnal yng Ngholeg Iâl, Wrecsam ddydd Mercher 12 Mehefin 16:00 - 18:00 a Llyfrgell y Dref, Caerfyrddin ddydd Iau 13 Mehefin 16:00 - 18:00.