Mwy o Newyddion
Prifysgol Abertawe ar frig y don
Mae tablau cynghrair newydd yn dangos mai Prifysgol Abertawe yw'r Brifysgol sydd wedi gwneud y cynnydd gorau yng Nghymru a'r 4ydd codiad uchaf o ran safle yn y DU.
Mae Canllaw Prifysgolion y Guardian 2014 yn dangos bod Prifysgol Abertawe wedi neidio 34 safle yn y tair blynedd ddiwethaf, gan godi o 94 i 60 yn yr 120 o Brifysgolion sydd wedi'u graddio yn y canllaw.
Gwnaeth y Brifysgol sgorio'n arbennig o dda yn ei harolwg myfyrwyr ar gyfer addysgu a boddhad cyffredinol a rhagolygon gyrfaol. Mae gan y Brifysgol gofnod gwych eisoes o ran cyflogadwyedd graddedigion, gyda 92% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis ar ôl graddio. Mae'r Brifysgol hefyd wedi lansio ei chynllun Rhwydwaith Interniaeth am Dâl Abertawe (SPIN), mewn partneriaeth â'r South Wales Evening Post, i helpu ei graddedigion i ennill gwybodaeth a phrofiad gwerthfawr o’r byd gwaith drwy osod ei myfyrwyr ar gynlluniau gwaith dros yr haf gyda busnesau lleol.
Mae'r Rhwydwaith ymhlith nifer o gynlluniau a gyflwynwyd gan Brifysgol Abertawe dan Academi Gyflogadwyedd Abertawe fel modd o gynorthwyo myfyrwyr i baratoi'n well i fynd i'r byd gwaith ar ôl gorffen astudio.
Wrth groesawu canlyniadau cyffrous eleni, meddai'r Dirprwy Is-ganghellor yr Athro Hilary Lappin-Scott: "Mae'r ffaith ein bod wedi esgyn 34 safle mewn tair blynedd yn unig ar un o dablau cynghrair mwyaf adnabyddus y DU yn anhygoel. Mae ein safle ar y tablau hyn yn fesur amlwg o'n perfformiad, ein henw da, a rhagoriaeth y profiad yr ydym yn ei ddarparu ar gyfer ein myfyrwyr.
"Mae'r Brifysgol yn bwrw ymlaen gyda datblygiad y Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi gwerth £250m a fydd yn cael ei gwblhau yn 2015 ac mae eisoes yn gwario £70m yn moderneiddio cyfleusterau ar ein Campws Singleton. Ynghyd â lleoliad syfrdanol a hyd yn oed rhannu cyfleusterau chwaraeon gyda thîm pêl-droed yn yr Uwch Gynghrair, mae pobl yn dechrau cydnabod bywiogrwydd ac enw da'r Brifysgol. Byddwn yn parhau i yrru ymlaen â'n hagendâu uchelgeisiol i'n helpu i ddatblygu ymhellach.”
Un maes y mae'r Brifysgol wedi rhagori ynddo'n arbennig yn nhabl y Guardian yw Gwyddor Chwaraeon - gan neidio i'r 5ed safle o'r 40fed safle y llynedd.
Meddai'r Athro Gareth Stratton, pennaeth Gwyddor Chwaraeon yn Abertawe: "Efallai mai'r ffordd orau o ddisgrifio gwyddor chwaraeon yw ei bod yr un peth â CSI, ond yn ymwneud â fforensig ymarfer corff yn hytrach na throseddu. Rydym ni am gynhyrchu graddedigion sy'n wyddonwyr, gan ddefnyddio chwaraeon ac ymarfer corff fel cefndir."
Gwnaeth y darlun newid ar gyfer myfyrwyr Gwyddor Chwaraeon Abertawe yn 2010 pan ail-leolwyd yr adran - yn unigryw yn ôl Stratton - i fod yn rhan o'r Coleg Peirianneg, yn hytrach nag o fewn yr ysgol iechyd, fel sy'n fwy arferol. Mae hyn yn golygu, meddai Stratton, bod canolbwynt cryf ar sut y gellir cymhwyso Gwyddor Chwaraeon yn ymarferol, gan ddefnyddio sgiliau peirianneg i edrych ar anafiadau chwaraeon, neu, er enghraifft, rhwystrau i symudiad arferol unigolion a achosir gan anabledd. Mae hyn, ynghyd ag interniaethau proffil uchel gyda thimoedd a lleoliadau chwaraeon mawr, wedi sicrhau bod myfyrwyr Abertawe'n gyflogadwy tu hwnt ar ôl iddynt raddio, meddai Stratton.
Ychwanegodd y Dirprwy Is-ganghellor: "Yn gynharach eleni, cydnabu Prifysgol Abertawe fel un o 200 sefydliad gorau'r byd yn Nhabl Cynghrair QS ar gyfer Pynciau Prifysgolion y Byd. Ers 2012 mae wedi rhagori nid dim ond ag un maes pwnc ond pedwar maes pwnc yn y 200 uchaf. Mae hwn yn berfformiad rhagorol.
“Gyda'i gilydd mae'r tablau hyn yn dangos bod Abertawe, sefydliad uchelgeisiol a arweinir gan ymchwil gydag addysgu o'r safon uchaf, yn lle ardderchog i fyfyrwyr o'r DU, o'r Undeb Ewropeaidd, ac o dramor ddod i astudio. Ar y cyfan mae Abertawe yn Brifysgol sydd ar ei ffordd i fyny."
Llun: Yr Athro Hilary Lappin-Scott