Mwy o Newyddion
Rhybuddio am argyfwng cyfiawnder
Mae Elfyn Llwyd AS Plaid Cymru wedi defnyddio cyfarfod brys Grwp Seneddol yr Undebau Cyfiawnder i rybuddio fod system cyfiawnder y DU yn wynebu argyfwng o ganlyniad i bolisiau trychinebus y Llywodraeth Glymblaid.
Roedd Mr Llwyd, sy’n cadeirio Grwp yr Undebau Cyfiawnder, yng nghwmni cynrychiolwyr Undeb PCS (Public and Commercial Services) Union, Napo (undeb y llysoedd teulu a’r gwasanaeth prawf), POA (Prison Officers' Association), a Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr.
Rhybuddiodd fod y system cyfiawnder mewn perygl o gael ei newid yn llwyr gyda thoriadau enfawr a miloedd o swyddi yn diflannu yn y blynyddoedd nesaf.
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Mr Llwyd: "Roedd y teimladau cryf a rannwyd yn y cyfarfod bore ‘ma yn arwydd clir o’r gwrthwynebiad sylweddol sy’n bodoli i bolisiau trychinebus y Llywodraeth.
“Dylai cael mynediad i gyfiawnder fod yn hawl sylfaenol i bob dinesydd. Drwy roi pris ar gyfiawnder, bydd y weinyddiaeth hon yn gwneud difrod parhaol i system sydd yn aml yn gwarchod rhai o unigolion mwyaf bregus cymdeithas.
“Yn sgil preifateiddio’r gwasanaeth prawf, bydd cwmniau cwbl amhrofiadol megis G4S a Serco yn rheoli troseddwyr ac yn asesu risg.
“Bydd diogelwch y cyhoedd mewn perygl o ganlyniad i fwriad y Llywodraeth i wneud toriadau enfawr ac anghyfrifol, be bynnag fo’r gost yn yr hir-dymor.
“Mae cynlluniau ar gyfer carchardai yn golygu mai testun sbort yw addewid y Glymblaid erbyn hyn i ddechrau “rehabilitation revolution” gan y bydd ailstrwythuro yn arwain at orlenwi o 25% ar draws yr ystad gyda llai o gyfleon i gynnal rhaglenni adfer neu waith cyflogedig.
“Yng Nghymru, mae cyfiawnder yn wynebu bygythiad neilltuol gan newidiadau i gymorth cyfreithiol – cynlluniau gwarthus fydd yn creu gwactod cymorth a chyngor, ac yn gorfodi pobl i gynrychioli eu hunain yn y llys.
“Mae Plaid Cymru wedi dadlau’n gyson y byddai system fwy effeithol ar waith pe bai cyfrifoldeb dros gyfiawnder Cymreig yn cael ei drosglwyddo o San Steffan i’r Senedd. Gyda phob cyhoeddiad polisi gan Lywodraeth Llundain, mae’r ddadl hon cryfhau.
“Tra bod ASau Llafur yn hapus i adael cyfiawnder yn nwylo’r Toriaid yn hytrach na throsglwyddo grym i’w Llywodraeth Gymreig eu hunain, mae Plaid Cymru’n parhau i ymgyrchu dros system ble fo cyfiawnder yn hawl i bawb yn hytrach na braint i’r ychydig rai.”