Mwy o Newyddion
Medal i Megan
Enillydd Medal y Dysgwyr eleni yw Megan Jones o Gaerdydd. Mae Megan yn 17 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Caerdydd.
Mae’n byw gyda’i rhieni a’i brawd - ei thad yn dod o Ferthyr a’i mam yn Wyddeles. Mae’n astudio Cymraeg, Saesneg a Ffrangeg ar gyfer Safon Uwch ac yn gobeithio mynd i Brifysgol Rhydychen i astudio Saesneg a Ffrangeg y flwyddyn nesaf.
Roedd 12 wedi cystadlu am y fedal eleni, a Megan, dan y ffugenw Mishkin, wedi cyrraedd y dosbarth cyntaf gyda thri arall. Roeddent wedi eu gosod yn y dosbarth cyntaf o ganlyniad i’w gafael sicrach ar yr iaith a’u dawn gynhenid i ysgrifennu’n greadigol a dychmygus.
Wrth draddodi, dywedodd y beirniad, Marian Thomas a Helen Prosser, “Hanesyddol yw gwaith Mishkin; cerdd rymus dros ben am gwymp Llywelyn, stori’n llawn dychymyg am fab anghyfreithlon Llywelyn ein Llyw Olaf a llythyr dychmygol at Gwilym Brewys gan ei wraig cyn iddo gael ei grogi.
“Llwydda i greu naws y cyfnod mewn llythyr teimladwy sy’n driw i’r hanes. Mae’n siarad yn naturiol ac yn fyrlymus i gwestiynau’r athrawes ar y cyflwyniad sain. Ceir cyffyrddiadau o hiwmor a mynegi barn am bwysigrwydd y Gymraeg iddi. Yn ystod y cyfweliad, llwyddodd i drafod pob math o bynciau’n raenus ac yn hyderus. Gwobrwyir Mishkin am waith safonol a chywirdeb eithriadol ei mynegiant ar lafar ac yn ysgrifenedig.”
Mae Megan yn hoffi astudio ieithoedd a’u cymharu nhw â’u llenyddiaeth. Dywedodd, “Dwi’n dwli ar ddarllen llawer o lyfrau gwahanol, llyfrau glasur a chyfoes, doniol a chyffrous. Dwi’n hoffi cadw’n heini, yn enwedig rhedeg a nofio gyda’m ffrindiau.
“Mae cerddoriaeth yn bwysig i mi a dwi'n hoffi gwrando ar lawer o fandiau gwahanol. Ond yn y côr dwi’n canu pethau hollol wahanol i beth fyddwn i yn gwrando arno fel arfer gan ein bod yn canu cerddoriaeth glasurol, cerddoriaeth o’r sioeau a cherddoriaeth draddodiadol Gymraeg.
“Yn y dyfodol, pwy a ŵyr beth fydda’ i yn ei wneud, ond dwi’n gobeithio y byddaf yn gallu teithio a gweld y byd.”
Daeth Jenni Ferris o Ysgol Uwchradd Caerdydd yn ail, a Hannah Beare o Ysgol Uwchradd Fitzalan, Caerdydd yn drydydd.