Mwy o Newyddion

RSS Icon
31 Mai 2013

Ysgoloriaeth Gelf i Lea Adams

Lea Adams, sydd yn wreiddiol o Benrhyndeudraeth ond bellach yn byw yn Aberystwyth, sydd wedi ennill yr Ysgoloriaeth Gelf eleni.  Mae yr Ysgoloriaeth, sydd werth £2,000, yn cael ei gwobrwyo i’r gwaith mwyaf addawol gan unigolion rhwng 18 – 25 oed.

Roedd Lea yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Cefn Coch ac yna Ysgol Uwchradd Ardudwy, cyn symud i Aberystwyth yn 16 oed gan wneud ei arholiadau Lefel A yn Ysgol Penweddig.  Astudiodd Bioleg, Daearyddiaeth, Cemeg, Celf a Hanes Celf a dyna pryd y penderfynodd ei bod am ddilyn gyrfa ym myd Celf.

Dywedodd Lea, “Mae fy nyled i Mr Glyn Thomas, pennaeth yr adran Gelf ar y pryd, yn fawr iawn. Enillais Ysgoloriaeth Evan Morgan i fynd i Brifysgol Aberystwyth i astudio Celf Gain ac arbenigo mewn argraffu a pheintio.  Graddiais llynedd gyda gradd dosbarth cyntaf.  Ers hynny rwyf wedi bod yn gwerthu fy nghelf yn yr ardal a chyflawni comisynau.  Rwyf wedi bod yn rhoi sgyrsiau am fy nghelf ac fel artist preswyl yn peintio’n gyhoeddus.  Rwyf yn arolygwr gweithdy Argraffwyr Aberystwyth a newydd fy mhenodi fel artist preswyl Arad Goch.

Aeth Lea ymlaen i sôn am ei dylanwadau, “Picasso yw fy hoff artist, ac rwyf wedi fy nylanwadu gan Cezanne.  Rwy'n hoff iawn o bortreadau Kyffin Williams a defnydd Aneurin Jones o liw. Fe gefais fy ysbrydoli gan arddangosfeydd gwych y Llyfrgell Genedlaethol yn enwedig arddangosfa Chrisopher Williams, Clive Hicks Jenkins a David Tress.  Rwy'n rhan o Morphe Art sef rhwydwaith o awduron, perfformwyr ag artistiaid Cristnogol.”

Mae ar hyn o bryd yn gweithio ar gasgliad o waith yn astudio cymeriadau gwahanol mewn teulu ac yn y gymuned.  Dywedodd, “Rwy’n trio mynegi'r berthynas amrywiol sydd rhyngddynt.  Rwy’n edrych ymlaen at gydweithredu gydag artistiaid eraill o gyfryngau gwahanol a chreu arddangosfeydd fydd yn ymwneud yn uniongyrchol â’r gymuned.  Rwy’n bwriadu teithio a dod i adnabod a darlunio pobl o gefndiroedd a diwylliannau eraill ac arddangos fy ngwaith yn rhyngwladol.”

Yn dilyn ei llwyddiant yn y sir, cafodd Lea ei gwahodd am gyfweliad i drafod ei gwaith a gwaeth argraff ar y beirniaid gyda’i aeddfedrwydd yn trafod y gwaith, a’r arddulliau gwahanol yr oedd wedi arbrofi â hwy.

Rhannu |