Mwy o Newyddion

RSS Icon
31 Mai 2013

Miriam yn Cipio’r Wobr Gelf

Miriam Dafydd, sydd yn ddisgybl yn Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn yw enillydd y Fedal Gelf eleni.  Mae Miriam wedi ennill y wobr gyda’i chasgliad o beintiadau.

Mae’n dilyn cwrs Lefel A mewn Celf a Dylunio, Llenyddiaeth Saesneg, Hanes a Daearyddiaeth ar hyn o bryd ac yn gobeithio gwneud cwrs sylfaen celf yng Ngholeg Menai, ac yna mynd i’r brifysgol i astudio Celf Gain.

Yn ôl Miriam, “Mae gen i ddiddordeb mewn celf ers pan oeddwn yn ferch fach, ac wedi bod yn lwcus dros ben i gael ymweld â nifer o orielau, amgueddfeydd a thai hanesyddol gyda fy nheulu, yn casglu syniadau ac ysbrydoliaeth o bob un.

“Rwyf hefyd wedi helpu cynnal gweithdai, a’u mynychu gydag arlunwyr Cymraeg megis Luned Rhys Parri, Richard Houghton ac Alison Mercer. Mae’r ymweliadau a’r gweithdai yma wedi fy nghyflwyno i amrediad o dechnegau a deunyddiau, ynghyd ag arlunwyr a dylunwyr o bob math. Rhai o fy nylanwadau mwyaf yw Lucien Freud, Francis Bacon, Blake a Millais. Rwyf hefyd yn edmygu gwaith dylunio William Morris a Mark Hearld.”

Yn ystod ei amser rhydd, mae’n mwynhau gwnïo ei dillad ei hun yn arbennig steiliau o’r 40au a 50au.

Wrth dderbyn y wobr, roedd ei diolch yn fawr i athrawon yr ysgol, dywedodd “Rwyf wedi derbyn llawer o gefnogaeth gan athrawon yr ysgol ar hyd fy amser yno, a hoffwn ddiolch yn arbennig i Mrs Anwen Williams o’r adran Gelf am ei chymorth a chefnogaeth ers fy ngwersi celf gyntaf ym mlwyddyn 7.”

Rhannu |