Mwy o Newyddion

RSS Icon
31 Mai 2013

Y Prif Weinidog yn cychwyn trafodaeth genedlaethol am ddyfodol y Gymraeg

Heddiw, bydd  y Prif Weinidog Carwyn Jones yn cychwyn drafodaeth genedlaethol ar ddyfodol y Gymraeg drwy gwrdd â Fforwm Ieuenctid Cenedlaethol yr Urdd yn Eisteddfod yr Urdd.

Mae Iaith Fyw: Y Gynhadledd Fawr yn gwahodd pobl o bob oedran, waeth beth yw eu cefndir neu’u gallu yn Gymraeg, i gymryd rhan mewn trafodaeth genedlaethol am yr iaith a sut mae modd hyrwyddo a chefnogi’i defnydd yn y dyfodol.

Drwy gydol mis Mehefin, bydd cyfle i bobl ledled Cymru gymryd rhan yn y drafodaeth drwy grwpiau cymunedol, fel yn y Fforwm Ieuenctid heddiw, drwy fforwm ar-lein ar wefan Llywodraeth Cymru ac yng nghynhadledd undydd y Gynhadledd Fawr, sydd i’w chynnal yn Aberystwyth ar 4 Gorffennaf.

Bydd y safbwyntiau, y farn, y syniadau a’r enghreifftiau o arfer gorau sy’n cael eu rhannu yn y digwyddiadau yn cael eu defnyddio i ddylanwadu ar weledigaeth Llywodraeth Cymru ynghylch dyfodol yr iaith a datblygu ymhellach y polisïau a fydd yn sicrhau bod yr iaith yn ffynnu.

Dywedodd y Prif Weinidog: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i bawb sydd â buddiant yn y Gymraeg i gyfrannu at drafodaeth genedlaethol am ddyfodol ein hiaith.

“Rydyn ni i gyd yn deall bod yr iaith mewn sefyllfa fregus, fel y gwelwyd yng nghanlyniadau’r Cyfrifiad y llynedd, ac mae nifer ohonoch wedi mynegi pryder ac wedi galw am wneud mwy. Dyma’ch cyfle chi i weithredu a chymryd rhan mewn trafodaeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth.

“Rydyn ni am wybod sut mae pobl o bob gallu yn y Gymraeg yn defnyddio’r iaith ar hyn o bryd – a pha broblemau y maen nhw’n eu hwynebu o ran defnyddio’r iaith mewn gweithgareddau beunyddiol. Rydyn ni hefyd am ddeall pam nad yw rhai pobl eisiau defnyddio’r Gymraeg neu ddim yn teimlo’n hyderus yn ei defnyddio. Yn bwysicaf oll, rydyn ni am weld beth mae pobl yn credu y mae modd ei wneud i roi mwy o gyfleoedd iddyn nhw ddefnyddio’r iaith bob dydd.”

Bydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar sut mae cyflawni’r chwe thema a nodir yn strategaeth Llywodraeth Cymru Iaith fyw: iaith byw, sef: y teulu, pobl ifanc, cymunedau, y gweithle, gwasanaethau Cymraeg a thechnoleg.

Bydd y Gynhadledd Fawr hefyd yn ystyried rôl Llywodraeth Cymru – ac yn trafod gyda Gweinidogion a swyddogion ynghylch y camau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i gynyddu defnydd o’r Gymraeg.

Caiff yr wybodaeth a fydd yn cael ei chasglu drwy ddigwyddiadau Iaith Fyw: Y Gynhadledd Fawr ei defnyddio i baratoi a chyhoeddi adroddiad ar ôl y gynhadledd i’w gyflwyno i Gyngor Partneriaeth y Gymraeg sy’n cynghori Gweinidogion Cymru ar eu strategaeth iaith.

Ychwanegodd y Prif Weinidog: “Mae’r Gymraeg yn unigryw – a’n hiaith ni yw hi. Mae pobl ledled Cymru yn ymfalchïo ynddi, p’un a ydynt yn gallu’i siarad ai peidio, ac mae’n rhaid i ni wneud pob dim posibl i amddiffyn y rhan bwysig hon o’n hunaniaeth ddiwylliannol.

“Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn cymryd y cyfle hwn i gyfrannu at y drafodaeth bwysig hon. Mae gan bawb rôl i’w chwarae o ran sicrhau bod yr iaith yn ffynnu.”

Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn ymuno â Fforwm Ieuenctid Genedlaethol yr Urdd ddydd Gwener 31 Mai am 11am yn yr Anedd Wen yn Eisteddfod yr Urdd, i ddechrau yn swyddogol Iaith Fyw: Y Gynhadledd Fawr, sgwrs genedlaethol am ddyfodol yr iaith Gymraeg.

Rhannu |