Mwy o Newyddion
31 Mai 2013
Newidiadau i wasanaethau bysiau yn sgil gosod wyneb newydd ar yr A40
Bydd yr A40 yn cau dros dro yn Nerwen-fawr ar y ddau benwythnos cyntaf ym Mehefin yn sgil gwaith gosod wyneb newydd.
Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru fydd yn cyflawni'r gwaith a hynny ddydd Sadwrn a dydd Sul 1 a 2 Mehefin a dydd Sadwrn a dydd Sul 8 a 9 Mehefin rhwng 5am a 6pm.
O ganlyniad i gau'r ffordd bydd gwasanaeth bws 280/281 rhwng Llanymddyfri a Chaerfyrddin yn cael ei ddargyfeirio o'r A40 gan fynd ar hyd y B4297, y B4300 a'r A476 trwy bentrefi Dryslwyn a Ffair-fach.
Felly ni fydd bysiau'n galw heibio i'r arosfannau bysiau ar yr A40 rhwng Cross Inn Forge a chroesffordd Pen-y-banc ar y dyddiadau hyn.
Hefyd, ni fydd gwasanaeth B10 yn galw yn Aberglasne.