Mwy o Newyddion
Elan o Ddyffryn Nantlle yn ennill y Gadair
Elan Grug Muse, sydd yn wreiddiol o Garmel yn Nyffryn Nantlle ac yn 19 oed, sydd wedi ennill cadair Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013.
Mae’r gadair yn cael ei chyflwyno i’r Prifardd am gyfansoddi cerdd gaeth neu rydd, heb fod dros 100 llinell ar y testun Awelon.
Aeth Elan i Ysgol Gynradd Carmel, yna Ysgol Dyffryn Nantlle ac mae bellach yn astudio Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Nottingham. Roedd yn y cystadlu o dan y ffug enw ‘Y Ffwl yn y Gornel’.
Roedd unarddeg wedi cystadlu eleni, ac roedd y beirniaid Hywel Griffiths a Ceri Wyn Jones yn teimlo fod safon y cerddi’n uchel.
Wrth draddodi, dywedodd y beirniaid: “Galar am dad neu daid sydd yn y gerdd, a darlunia’r bardd ei hiraeth drwy gyfres o ôl-fflachiadau byw. Mae rheolaeth gan y bardd dros ei delweddau, maent yn wreiddiol, cyffrous a theimladwy.
"Mae’r bardd yn ddiofal gydag ambell ymadrodd weithiau, ond drwyddi draw mae’r gerdd yn llwyddo i ganu profiad trwy ddarluniau manwl a thrawiadol o’r manion y mae rhywun yn eu cofio pan fo rhywun wedi mynd. Trwy hynny, canodd gerdd sydd yn canu i brofiad pawb.”
Enillodd Elan gadair yr ifanc yn Eisteddfod Llanllyfni yn 2010, medal yr ifanc yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen yn 2010 a chafodd chwe gwobr gan gynnwys tri chyntaf yng nghystadlaethau llenyddol yr Urdd llynedd yn Eryri 2012.
Dywedodd Elan: “Rwyf wedi bod yn aelod o’r Urdd ers blynyddoedd maith ac wedi cystadlu’n gyson mewn pob math o gystadlaethau, o siarad cyhoeddus i’r ddeuawd gerdd dant.
"Ym mis Medi rwy’n gobeithio cychwyn ar flwyddyn o astudio yn yr Univerzita Karlova yn y Weriniaeth Czech fel rhan o gynllun Erasmws.
"Ar ôl graddio rwy’n gobeithio dychwelyd i Gymru er mwyn parhau gyda’m astudiaethau.”
Steffan Gwyn o Ysgol Uwchradd Tryfan, o dan y llysenw Iago, ddaeth yn ail a Manon Wynn Davies, aelod unigol o Gylch Glannau Menai o dan y llysenw Blodeuwedd, ddaeth yn drydydd.