Mwy o Newyddion

RSS Icon
31 Mai 2013

Galw fod darlledu Cymraeg ‘yn rhydd’ o orthrwm y BBC

Dawns fydd cyfrwng ymdrech i ‘ysgwyd diwylliant Cymraeg cyfoes yn rhydd o othrwm darlledwyr Prydain Fawr’ ar faes y brifwyl heddiw (1pm, Dydd Gwener, Mai 27) wrth i fflachdorf ymgynnull i alw am ddarlledwr Cymraeg newydd.  

Daw’r gwrthdystiad amgen wedi helyntion diweddar Radio Cymru, gyda thoriadau enfawr i freindaliadau artistiaid, cwymp yn nifer y gwrandawyr, a chwtogi cyllid sylweddol. Yn ei ymateb cyntaf i’r sgwrs genedlaethol am ddyfodol Radio Cymru, trwy ddawnsio gwerin fel yr Harlem Shake, bydd y mudiad yn galw am ddarparwr amlgyfryngol Cymraeg newydd. Wrth i natur y cyfryngau newid mor sylweddol - megis cydgyfeiriant gwahanol dechnolegau - cred y mudiad fod angen i’r Gymraeg fod yn rhan o’r datblygiadau hyn.

Dywedodd llefarydd digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Greg Bevan, y byddai darlledwr amlgyfryngol newydd yn sicrhau bod darlledu Cymraeg yn barod am yr oes wedi cydgyfeiriant:

“Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod gan bawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio, hawliau i’r Gymraeg. Nid yn unig hawliau i’w defnyddio a’i dysgu, ond hefyd i wrando arni, ei gweld, a’i phrofi fel rhan o ddiwylliant cyfoes, bywiog.

“Byddai darparwr newydd amlgyfryngol yn ehangu’r gynulleidfa sydd yn gwrando, gwylio a defnyddio’u Cymraeg. Byddai darparu rhwydwaith cenedlaethol Cymraeg gan fanteisio ar gydgyfeiriant technolegol yn cynnig platfform i brosiectau bro a chymunedol. Yn fwy na darlledwr un-ffordd traddodiadol, ei bwrpas, heb os, fyddai i gryfhau’r Gymraeg a’i chymunedau. Nid darlledwr er lles ei hunan, ond er lles yr iaith.

“Agenda gwahanol sydd gan y BBC wrth gwrs. Pam fod sgwrs genedlaethol honedig y BBC wedi ei chyfyngu i Radio Cymru yn unig? Onid swyddogaeth y gorfforaeth yn ei chyfanrwydd yw ‘adlewyrchu ein bywyd cenedlaethol’, yn hytrach nag un orsaf yn unig? A pham fod y sgwrs wedi ei chyfyngu i gyfrwng radio yn unig hyd yn oed? Nid yw’n gwneud synnwyr o gwbl wrth gofio bod BBC Cymru yn torri nôl ar wasanaethau ar-lein yn Gymraeg pan mae'n bosibl mai dyna'r union ffordd orau o gyrraedd cynulleidfa newydd sydd ddim o bosib yn gwrando ar Radio Cymru ar hyn o bryd.

“Nid yw’n syndod bod gwasanaethau Cymraeg y gorfforaeth ddarlledu Brydeinig yn dioddef wedi iddynt gael eu trin yn eilradd am flynyddoedd.  Rhwng 1990 a 2002 fe wnaeth y BBC mwy na dyblu'r nifer o orsafoedd radio Saesneg sydd yn darlledu yng Nghymru. Pam nad oes cynnydd cyfatebol wedi bod yn y ddarpariaeth Gymraeg? Ni allwn ymddiried ynddynt i sicrhau dyfodol darlledu yn Gymraeg wedi iddynt trin eu gwasanaethau Cymraeg yn eilradd i’r rhai Saesneg am ddegawdau.

“Dylent ryddhau cyllid cyfatebol o’u coffrau i sefydlu gwasanaethau rhyngweithiol newydd gan ddarparwr amlgyfrwng annibynnol, yn rhydd o unffurfiaeth saff Prydeinig y BBC.”

Ar stondin Cymdeithas yr Iaith ar faes yr Eisteddfod, mae gan bobl gyfle i weld eitemau oddi ar sianel deledu arlein y mudiad – Sianel 62 – a allai fod yn ysbrydoliaeth i ddarparwr newydd.

Ychwanegodd Greg Bevan: “Mae Sianel 62 yn enghraifft o’r hyn sy’n bosibl. Gydag adnoddau ychwanegol, gallai gwasanaeth ar hyd y trywydd yna weithio fel rhwydwaith cenedlaethol gyda chynnwys cymunedol cryf ac agenda bywiog, arbrofol, trwy gyfrwng sain, fideo, gwefannau, a theclynnau o bob math. Byddai’n gyfraniad cyffrous newydd i ddiwylliant Cymru.”

Bydd y mudiad yn anfon ei ymateb llawn i ymgynghoriad y BBC yn yr wythnosau nesaf.

Rhannu |