Mwy o Newyddion

RSS Icon
31 Mai 2013

Yr Elyrch a'r Gweilch yn cefnogi cais dinas ddiwylliant

Mae arweinwyr chwaraeon wedi cymeradwyo cais Bae Abertawe i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2017.

Mae Huw Jenkins, Cadeirydd yr Elyrch, a Geoff Atherton, Cadeirydd y Gweilch, wedi cymeradwyo Cyngor Abertawe am gyflwyno'r cais yn ffurfiol mewn partneriaeth â Chyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Gâr.

Mae Michael Sheen, y seren Hollywood a Russell T Davies, y dramodydd adnabyddus, eisoes wedi cefnogi'r cais.

Caiff ceisiadau 2017 eu hystyried nawr gan banel ymgynghorol annibynnol cyn cyhoeddi rhestr fer y mis nesaf.

Meddai Huw Jenkins: "Mae llwyddiant yr Elyrch yn dangos yr hyn sy'n digwydd pan fyddwn yn cael cyfle i wireddu ein breuddwydion - mae ein hymagwedd paid ag anobeithio Jac ynghyd â'n doniau a'n gweledigaeth wedi cyfrannu at ein sefyllfa heddiw. Ein cymuned sy'n diffinio ein diwylliant - rydym yn rhan o'u bywydau bob dydd ac maen nhw'n rhan o'n bywydau ni, ac mae ein stadiwm yng nghanol y rhanbarth gan bontio'r dwyrain a'r gorllewin ac yn uno pobl. Bydd y clwb yn cefnogi'r cais i'r eithaf i helpu ein diwylliant a rennir dyfu a ffynnu ar draws Bae Abertawe."

Os bydd cais Bae Abertawe yn llwyddiannus, mae rhai o syniadau'r rhaglen yn cynnwys Gŵyl Pete Ham ar gyfer cerddorion heb reolwr a labordy hanes uwch-dechnoleg ar safle hanesyddol Gwaith Copr yr Hafod. Cynigir hefyd y gallai arweinwyr y rhanbarth weithio gyda rheolwyr rygbi Llewod Prydain i gyhoeddi carfan 2017 ym Mae Abertawe.

Meddai Geoff Atherton: "Mae rygbi'r Gweilch yn canolbwyntio'n gryf ar gysylltu â'n cymunedau, ac yn enwedig gyda phlant a phobl ifanc, drwy ein rhaglenni cynnwys drwy chwaraeon. Rydym yn falch iawn o fod yn gysylltiedig â chais Bae Abertawe i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2017 ac rydym yn edrych ymlaen at ehangu ein rhaglenni cynnwys y gymuned yn unol â'r fenter."

Meddai'r Cynghorydd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio: "Mae chwaraeon wrth wraidd diwylliant Bae Abertawe ac mae'n ein helpu i'n diffinio fel cymuned. Dyma pam mae'r cais gwych hwn wedi'i gymeradwyo gan ddau glwb pêl-droed a rygbi blaenllaw'r rhanbarth. Mae'r Elyrch a'r Gweill wedi gwneud gwaith rhagorol wrth gynyddu proffil Bae Abertawe ym mhedwar ban byd, ond byddai ennill statws Dinas Diwylliant y DU 2017 yn helpu i roi ein rhanbarth cartref ar y map rhyngwladol a denu hyd yn oed mwy o fuddsoddiad yn y dyfodol."

Gweinyddir y fenter Dinas Diwylliant gan yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon. Mae Bae Abertawe yn cystadlu yn erbyn dinasoedd megis Caerlŷr, Plymouth a Dundee.

Llun: Huw Jenkins

Rhannu |