Mwy o Newyddion
Croesawu Gweinidog Chwaraeon Lesotho i Gymru
Heddiw croesawodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones a’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon John Griffiths Weinidog Chwaraeon Lesotho, sef y Penadur Thesele John Maseriban, i Gymru i drafod y bartneriaeth barhaol rhwng y ddwy wlad o ran chwaraeon a hamdden.
Bu tîm Olympaidd Lesotho yn paratoi ar gyfer Gemau Llundain 2012 yn Wrecsam ac mae’r Gweinidog yn ymweld â Chymru i weld dros ei hunan y cyfleusterau hynny ac i ddiolch i Gymru am ei chymorth.
Dywedodd y Prif Weinidog: “Pleser yw cael croesawu Gweinidog Chwaraeon Lesotho i Gymru. Roeddem wrth ein bodd o gael croesawu Tîm Olympaidd Lesotho yma yr haf y llynedd i ddefnyddio’r cyfleusterau gwych yn Wrecsam ar gyfer hyfforddi cyn y Gemau.
“Mae Cymru wedi mwynhau cysylltiadau cryf â Lesotho ers 27 mlynedd drwy nifer uchel o fentrau cymunedol ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi gwaith Cymru yn Lesotho yn y flwyddyn ariannol hon drwy’r rhaglen Cymru o blaid Affrica.
“Enghraifft dda o hyn yw’r help a roddwn fel y gall y wlad ddatblygu ei Strategaeth Newid Hinsawdd ei hunan drwy ddefnyddio staff Llywodraeth Cymru. Mae ein staff yn dysgu sgiliau newydd ac yn cael cipolwg ar natur fyd-eang Newid Hinsawdd, wrth i Lesotho elwa ar yr arbenigedd nad oes ganddynt.
“Mae ein cyfarfod yn gyfle i feithrin ein perthynas ymhellach ac i edrych ar y ffyrdd y gallwn gynnig cymorth a gweithio gyda’n gilydd yn y dyfodol er budd y ddwy wlad.”
Dywedodd y Gweinidog Chwaraeon a Diwylliant, John Griffiths:
"Mae’r cyfarfod heddiw yn gyfle inni archwilio’r posibiliadau o gydweithio a defnyddio chwaraeon fel cyfrwng i helpu pobl ifanc a chymunedau yn Lesotho.”
Llun: Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones a'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon John Griffiths gyda Gweinidog Chwaraeon Lesotho, Penadur Thesele John Maseriban