Mwy o Newyddion
Neuadd Brangwyn yn paratoi ar gyfer cael ei hadnewyddu
Mae Neuadd Brangwyn hanesyddol Abertawe ar fin bod yn un o brif leoliadau Cymru ar gyfer digwyddiadau sy'n amrywio o briodasau i gyngherddau llawn sêr.
Bydd y neuadd hanesyddol yn cau ym mis Gorffennaf am ychydig yn llai na blwyddyn wrth i'r Cyngor gwblhau adferiad ac uwchraddiad trylwyr.
Gofynnwyd i arbenigwyr celf sicrhau bod Paneli Byd-enwog Brangwyn yn cael eu diogelu trwy gydol y newidiadau.
A bydd y gwaith yn sicrhau bod y Neuadd Restredig Gradd 1 yn cael ei diogelu a'i hadfer i fodloni anghenion cenedlaethau'r dyfodol.
Meddai Nick Bradley, Aelod y Cabinet dros Adfywio: "Mae Neuadd Brangwyn yn un o asedau diwylliannol pwysicaf Abertawe sydd wedi cynnal perfformiadau gan rai o sêr mwyaf adnabyddus y byd cerddoriaeth dros y blynyddoedd.
"Mae'r gwaith hwn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod Neuadd Brangwyn yn cael ei diogelu a'i hadfer er mwyn i genedlaethau o ymwelwyr ei mwynhau yn y dyfodol.
"Yn dilyn y gwaith, bydd y Cyngor yn ail-lansio'r cyfleuster fel un o brif leoliadau'r Ddinas ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus mawr, gan gynnwys cynadleddau, arddangosfeydd, cyngherddau, gwyliau, priodasau, ciniawau ac ati.
"Rwy'n falch o ddweud bod archebion wedi'u derbyn ar gyfer 2014 ac i'r dyfodol yn barod."
Bydd uwchraddio Brangwyn yn costio miliynau o bunnoedd a bydd yn cynnwys ailweirio gofalus, ailosod systemau gwresogi presennol a gwaith gwrth-dd?r.
Bydd ffabrig yr adeilad yn cael ei uwchraddio a'i adfer gan gynnwys gorchuddion tô, ffenestri a gwaith carreg mewnol ac allanol a gwaith saer.
Apwyntiwyd gweithwyr cadwraeth celf yn barod i gynnal arolwg o 17 Panel hanesyddol Sir Frank Brangwyn. Byddant yn cynllunio ac yn goruchwylio gosod amddiffyniad priodol a fydd yn aros yno trwy gydol y gwaith.
Mae'r cynllun yn dilyn yr ailwampiad gofalus a llwyddiannus i weddill Neuadd y Ddinas hanesyddol sy'n gartref i'r neuadd.
Mae defnyddwyr rheolaidd Neuadd Brangwyn wedi derbyn y newyddion diweddaraf am gynnydd y newidiadau ac mae trefniadau amgen wedi'u gwneud lle'n bosibl.
Cynghorwyd cwsmeriaid presennol a newydd hefyd y bydd ardaloedd eraill o adeilad Neuadd Brangwyn ar gael i'w llogi yn ystod yr un cyfnod.
Cynllun Brangwyn yw Cam 5 adfer Neuadd y Ddinas y mae ei th?r eiconig yn sefyll yn falch ar nenlinell y ddinas wedi iddo hefyd gael ei adfer.
Agorwyd yr adeilad hanesyddol ym 1934 ac mae ganddo statws eiconig yn Abertawe ar ôl goroesi'r Blitz yn yr Ail Ryfel Byd a bod yn ganolfan bywyd dinesig yn y ddinas. Heddiw mae'n enwog am fod yn gefndir i raglenni teledu megis Doctor Who.