Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Mai 2013

Grŵp Cynulliad y Blaid yn cyhoeddi cyfrifoldebau cabinet cysgodol newydd

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi cyhoeddi newidiadau i’w chabinet cysgodol yn y Cynulliad.

Dywedodd fod y newidiadau wedi eu gwneud er mwyn gwneud i’r portffolios gyd-fynd a’r newidiadau a gyhoeddwyd i gyfrifoldebau Gweinidogion y llywodraeth ym mis Mawrth 2013.

Dyma’r cyfrifoldebau newydd:

Leanne Wood – Lles, y Cyfansoddiad a Materion Rhyngwladol

Alun Ffred Jones – Busnes a’r Economi a Gwyddoniaeth

Dafydd Elis-Thomas – Trafnidiaeth a Chymdeithas

Rhodri Glyn Thomas – Llywodraeth Leol ac Adfywio

Bethan Jenkins - Darlledu, Chwaraeon, Diwylliant a Threftadaeth

Elin Jones – Iechyd, Rheolwr Busnes a Phrif  Chwip

Lindsay Whittle – Gwasanaethau Cymdeithasol, Cydraddoldeb, Pobl Hŷn

Ieuan Wyn Jones – Cyllid

Llyr Gruffydd – Yr Amgylchedd, Ynni ac Amaeth

Simon Thomas – Addysg a Sgiliau, yr Iaith Gymraeg

Jocelyn Davies – Menywod, Pobl Ifanc a Thai

Dywedodd Leanne Wood: “Mae gan Blaid Cymru dîm rhyfeddol o Aelodau Cynulliad, sydd wedi profi dro ar ôl tro eu hymrwymiad i weithio er mwyn gwella bywydau pobl Cymru.

"Bydd addasu ein cyfrifoldebau portffolio i’w gwneud yn unol â’r newid yng nghyfrifoldebau’r gweinidogion yn ein helpu i weithio yn fwy effeithiol wrth i ni graffu ar waith y llywodraeth a rhoi ein cynigion cadarnhaol ni gerbron am sut i adeiladu Cymru well.”

Llun: Leanne Wood

Rhannu |