Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Mai 2013

Dyfodol Chwarel y Penrhyn yn ddiogel

Mae’r gwaith ar fin cychwyn y mis yma ar estyniad pwysig i chwarel lechi hanesyddol y Penrhyn, Bethesda. Bydd hyn yn gymorth i ddiogelu swyddi a sicrhau bod modd parhau i gloddio llechi yn y chwarel am hyd at ugain mlynedd os cedwir at y cyfraddau cynhyrchu presennol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cefnogaeth i’r prosiect drwy roi benthyciad i gwmni Welsh Slate Ltd allu prynu darn o dir 20 acer gerllaw ar ôl i greigiau gwympo yn y chwarel ym Methesda.

Ar ôl y cwymp, roedd tua hanner miliwn o dunelli o greigiau gwastraff yn gorchuddio gwaelod y chwarel, a chafodd hyn effaith fawr ar y gwaith ar y pryd. Oherwydd rheolau iechyd a diogelwch nid oedd modd symud y gwastraff, a gallai hynny fod wedi golygu colli pedwar mis o leiaf o waith cynhyrchu.

Er mwyn osgoi diswyddiadau dros dro neu barhaol, cytunodd Chris Allwood, y Rheolwr Gyfarwyddwr gyda’r undeb i gyflwyno wythnos bedwar diwrnod i 90 o aelodau o’r staff. Cafodd gweithwyr eraill eu symud i safle arall.

Esboniodd Mr Allwood: “Roedd yn angenrheidiol inni gael y safle 20 acer yma i ehangu’r gwaith, ac roedd y benthyciad gan Lywodraeth Cymru yn gwbl hanfodol. Mae wedi cyfrannu at gyflymu’r broses o brynu’r tir, a gan fod y broses gynllunio eisoes yn ei lle, rydyn ni’n barod i ddechrau cloddio y mis yma ar ôl gwneud gwaith paratoi helaeth ar y safle newydd.”

Dywedodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi: “Mae cwmni Welsh Slate yn gyflogwr pwysig yn yr ardal, ac yn darparu nifer sylweddol o swyddi medrus sy’n talu’n dda. Mae’n gwneud cyfraniad pwysig i’r economi bob blwyddyn.

“Mae’n bleser i mi fod y benthyciad gan Lywodraeth Cymru wedi cyfrannu at ddiogelu’r swyddi yma ac at ddiogelu dyfodol y safle am yr ugain mlynedd nesaf. Mae Chwarel y Penrhyn yn enwog ledled y byd am safon ei llechi sy’n cael eu defnyddio i adnewyddu eiddo hanesyddol yn ogystal ag i harddu datblygiadau modern newydd.”

Llun: Edwina Hart

 

Rhannu |