Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Mai 2013

Jill Evans yn cael ei gwneud yn gymrawd o Academi Prifysgol Bangor

Roedd yn bleser gan Jill Evans ASE dderbyn gwahoddiad i ddod yn Gymrawd Gweithredol y Sefydliad Astudiaethau  Cystadleuaeth a Chaffael (SACC) ym Mhrifysgol Bangor. Nod Academi Caffaelwyr Proffesiynol y SACC yw hyrwyddo arloesi caffael Cymreig yn rhyngwladol, yn ogystal â dod ag arbenigedd i Gymru o weddill y byd.

Dywedodd Jill Evans: “Mae’n anrhydedd i fod wedi cael fy ngwahodd i sefydliad sydd yn gwneud cymaint i hyrwyddo busnes a chynnyrch Cymreig. Mae hwn yn rywbeth rwyf wedi bod yn ymgyrchu drosto ers amser maith. Rwyf hefyd yn dilyn y ddeddfwriaeth newydd ynglŷn â hyn yn Senedd Ewrop ar ran fy ngrŵp ac rwyf wedi cael gwybodaeth a chymorth amhrisiadwy gan SACC.

“Mae cynaladwyedd a bod yn hunan ddibynnol yn hanfodol bwysig. Golyga cefnogi caffael lleol hwb yn y nifer o bobl leol sydd mewn gwaith. Yn ôl y ffigurau diweddaraf, dim ond 52% o wariant cyhoeddus Cymreig sy’n mynd i gwmnïau wedi’u sefydlu yng Nghymru. Mae Gwerth Cymru’n cyfrifo byddai pob cynnydd ychwanegol o 1% yn golygu 2000 o swyddi ychwanegol yng Nghymru. Os gallwn wella ein harferion caffael er mwyn cynyddu gwariant cyhoeddus o 51% i 75% yn mynd i Gwmnïau Cymreig fe allai greu bron i 50,000 o swyddi yng Nghymru.

“Mae Plaid Cymru’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn esiampl yr Alban sydd yn ymgynghori ynglŷn â’r ddeddfwriaeth er mwyn sicrhau bod yr ymarfer gorau mewn rhai meysydd yn dod yn ymarfer cyffredin ar draws y sector gyhoeddus."

Rhannu |