Mwy o Newyddion
Gŵyl Wil Sam
Rhwng y 13 a’r 18 o Fai, cynhelir llu o weithgareddau i ddathlu bywyd a gwaith un o brif ddramodwyr Cymru, Wil Sam Jones. Cynhelir holl ddigwyddiadau’r ym mhentref Llanystumdwy, boed yn y Neuadd, ger bar y Plu, neu ar gefn beic.
Yn ystod yr wythnos, cynhelir nifer o ddigwyddiadau, sydd oll yn gyfle i hel atgofion am Wil Sam, i edrych yn fanylach ar ei waith a’i fro, a’n gyfle i’r gymuned ddod ynghyd. Dyma Ŵyl gymunedol newydd, gyda theulu a ffrindiau Wil Sam yn ogystal â thrigolion yr ardal, yn arwain digwyddiadau’r wythnos. Mae unrhyw elw a wneir yn mynd tuag at ariannu llefydd ar gyrsiau Tŷ Newydd i bobl ifanc o Eifionydd.
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Dyma Ŵyl arbennig sy’n dathlu bywyd a gwaith un o hoff ddramodwyr Cymru. Roedd Wil Sam yn gymeriad mawr yn ardal Eifionydd a chyda barch enfawr o bob cornel o’r wlad i’w waith. O ddramâu cynnar Theatr y Gegin, i sgetsys Ifas y Tryc ar y sgrin deledu, mae ei gyfraniad i fyd y ddrama a llenyddiaeth, heb amheuaeth, wedi bod yn enfawr.
“I ddathlu ei gyfraniad i ddiwylliant a chymdeithas Eifionydd a Chymru, trefnwyd Gŵyl arbennig i’w cynnal yn Llanystumdwy rhwng y 13 - 18 Mai. Mae Gŵyl Wil Sam â stamp yr ardal arno gyda nifer o’r sesiynau a nosweithiau yn cael ei arwain gan deulu a chyfeillion iddo, dyma wir ŵyl i’r gymuned.”
Dewch i fwynhau
Gellir archebu tocynnau ar gyfer digwyddiadau unigol neu docyn wythnos drwy:
01766 522 811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org,
neu trwy ymweld â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.