Mwy o Newyddion
Cristnogion yn erbyn poenydio
Mae ymgyrchywr hawliau dynol yng Nghymru yn cymell yr Ysgrifennydd Tramor William Hague i wneud ple arbennig am ddychwelyd Shaker Aamer, y Prydeiniwr olaf i’w garcharu ym Mae Guantanamo.
Yn un o dros 100 o garcharorion ar streic newyn yn y ganolfan Americanaidd, mae Aamer wedi ei gadw’n garcharor yno am dros 11 mlynedd – er cael ei glirio i’w ryddhau chwe blynedd yn ôl.
"Mae’r hyn sy’n digwydd i’r dyn yma’n warth," meddai’r Parchg Roy Jenkins, Cadeirydd ymgyrch yr eglwysi Cymreig Cristnogion yn erbyn Poenydio.
"Yr ydym wedi croesawu taerineb y llywodraeth i’w gael yn ôl ym Mhrydain, ond yr ydym yn gofidio y gall oedi pellach fod yn dyngedfennol.
"Yr ydym mewn arswyd a chywilydd o’r modd y mae Shaker Aamer yn cael ei drin. Mae e’ wedi’i gamdrin yn helaeth dro ar ôl tro.
"Mae e wedi treulio cyfnodau maith mewn cell wrtho’i hun, wedi colli llawer o bwysau, ac yn wan iawn.
"Y mae ‘na ofnau real na fydd yn goroesi’r driniaeth.
"Nid yw wedi ei gyhuddo o unrhyw drosedd, lai fyth ei gael yn euog, ac fe gredwn ni fod ein llywodraeth dan rwymedigaeth i gynyddu ei galwad am ei ddychweliad i Brydain i’w uno eto gyda’i wraig a’i blant."
Mae cefnogwyr Cristnogion yn Erbyn Poenydio wedi bod yn sgrifennu at eu AS’au ac at yr Ysgrifennydd Tramor yn cymell bwyso’n daer ar America am ei drosglwyddo.
Maen nhw’n ymuno a mwy na 100,000 o bobol dros Brydain mewn e-betisiwn a esgorodd ar ddadl seneddol yn ddiweddar.
Canolbwyntiodd ymgyrch Gymreig cyn hyn ar sefyllfa Omar Deghayes, a ryddhawyd yn fuan wedi’r petisiwn a gyflwynwyd i 10 Stryd Downing yn cymell ei ddychweliad i Brydain.
Lansiwyd Cristnogion yn erbyn Poenydio, sy’n asiantaeth i Cytun, Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, yn 1981 gan y cyn Gyngor Eglwysi Cymreig. Mae’n cynnwys yr holl draddodiadau Cristnogol yn gweithio a gweddïo tros ddileu poenydio ac am ofal tros y dioddefwyr, o bob ffydd a’r di-ffydd.
Llun: Shaker Aamer