Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Mai 2013

Neges Heddwch Ddigidol am y tro cyntaf

Am y tro cyntaf erioed eleni, bydd fersiwn ddigidol o Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn cael ei chreu ar gyfer ei dosbarthu ar y we.  Y gwneuthurwr ffilm 24 oed o Sir Benfro, Owain ‘Nico’ Dafydd, enillodd y wobr gyntaf gyda’i ffilm ‘Orange Martini, Vienna’ yng Ngwyl Ffilmiau Ffresh yn 2010, fydd yn gyfrifol am greu y fersiwn ddigidol 7 munud o hyd.

Cydweithredu yw thema’r neges eleni, sydd wedi ei noddi gan Grŵp y Co-operative yng Nghymru, ac fe’i hysgrifenwyd a’i datblygu gan 17 o bobl ifanc o Ysgol y Preseli ac Ysgol Bro Gwaun.  Bydd y fersiwn ddigidol yn cael ei thaflunio ar wal Llys yr Esgob Tyddewi am 9pm, 17 Mai ac yn cael ei pherfformio yn fyw gan y criw ar yr un noson.  Mae ar gael mewn 20 iaith ar wefan yr Urdd, gan gynnwys Arabeg, Groeg ac Almaeneg.

Yn y neges bydd pobl ifanc Sir Benfro yn galw ar wledydd y byd i gydweithio er mwyn creu byd tecach gan beidio troi llygad ddall ar broblemau’r byd.  Mae’r Neges wedi ei hanfon yn flynyddol ers 1922 ac erbyn heddiw, y bobl ifanc eu hunain sydd yn ymgymryd â’r gwaith o ysgrifennu, perfformio a chyfieithu’r Neges a’i hanfon i bobl ifanc ar draws y byd.

Yn ôl Kelly Anderson, Swyddog Datblygu Ieuenctid Penfro, “Mae gennym griw gwych yn gweithio ar y neges eleni.  Roeddem eisiau cynnig rhywbeth gwahanol eleni, a dyna pam y gwnes i holi Nico Dafydd os gallai greu fersiwn ddigidol i’w dosbarthu ar y we.  Mae rhai o’r criw hefyd yn bwriadu gwneud achrediad Agored Cymru lefel 2 mewn ‘creu digwyddiad’ yn dilyn eu gwaith ar y prosiect.”

Ychwanegodd Eurfyl Lewis, Swyddog Prosiect Penfro, “Rydym yn hynod o falch o’r nawdd ydym ni wedi ei gael gan y Co-op eleni.  Mae cefnogaeth cwmnïau i weithgareddau yr Urdd yn hanfodol, ac mae gwerthoedd y cwmni yn cyd-fynd yn dda gyda nod y neges.   Mae Llys yr Esgob Tyddewi yn leoliad hynod o brydferth fydd yn darparu cefnlen odidog i’r neges.”

Dyma Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2013 gan ieuenctid Cymru i ieuenctid y Byd

Mewn undod mae nerth.
Mae’n gyfrifoldeb arnom ni i gyd fel dinasyddion i greu a chynnal cymdeithas sy’n cydweithredu ac mae’n ddyletswydd arnom ni i gefnogi ein cyd-ddyn a pheidio â throi llygad ddall i broblemau’r byd.
 

O gariad, daw dyngarwch.
Gadewch i ni gefnogi cymunedau yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i orchfygu unbennaeth. Drwy wneud hyn, gallwn ddileu hunanoldeb, annhegwch ac anghydraddoldeb. Mae angen i ni ymdrechu mewn cariad i ddatrys yr holl rwystrau sy’n llygru a difetha ein perthynas â’n gilydd fel cenhedloedd y byd.
 

Nid trwy’r unben y ceir tegwch.
Gadewch i ni agor ein breichiau a chydweithio er mwyn creu byd tecach a mwy cyfiawn. Masnachu’n deg rhwng y gwledydd yw’r ffordd ymlaen.
 

Rhoi a chael: egwyddor person hael.
Gadewch i ni ieuenctid Cymru felly annog ieuenctid y byd i greu cymuned fyd-eang. Mae gennym ni i gyd gyfrifoldeb i lafurio’n ddiwyd mewn cariad ac amynedd i helpu ein gilydd a hynny mewn modd ymarferol.
 

Mewn undod mae nerth.

Rhannu |