Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Ebrill 2013

Ymestyn y Gronfa Datblygu Digidol

Mae Llywodraeth Cymru yn ymestyn y Gronfa Datblygu Digidol. Mae’r gronfa’n helpu busnesau yn y Diwydiannau Creadigol i fanteisio ar farchnadoedd newydd drwy dechnolegau digidol.

Lansiwyd y Gronfa fel cynllun peilot yn 2011 ac mae’r Gronfa wedi helpu amrywiaeth eang o fusnesau i arallgyfeirio i farchnadoedd newydd, datblygu cynnyrch newydd ac elwa ar fanteision tymor byr y farchnad.

Wrth ymestyn y Gronfa am dair blynedd arall tan fis Mawrth 2016, yn ddibynnol ar yr adolygiad yn 2015, dywedodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi y byddai hyn yn sicrhau bod y gefnogaeth yn parhau.

Dywedodd y Gweinidog: “Mae’r diwydiannau creadigol yn sector allweddol ar gyfer economi Cymru. Mae’r Gronfa hon yn helpu cwmnïau i ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau sy’n defnyddio amrywiaeth o ddyfeisiau, llwyfannau a sianeli digidol ac yn sicrhau eu bod yn cael cyfleoedd rhyngwladol.

“Mae’n sector deinamig iawn ac mae’n bwysig bod cwmnïau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru yn gallu cael cyllid sbarduno er mwyn parhau i gystadlu, cyflwyno cynnyrch newydd i’r farchnad a masnachu’n fyd-eang.

“Mae nifer o’r busnesau’n gweithredu mewn diwydiannau sy’n prysur ddatblygu ac mae’r gefnogaeth hon yn eu hannog i arloesi ac yn helpu cwmnïau yng Nghymru i fod yn gystadleuol.”

Mae’r Gronfa’n rhoi arian i gefnogi’r gwaith o ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau digidol newydd, ac nid oes angen ad-dalu’r arian hwnnw. Gall ddarparu hyd at 50 y cant o gostau pob prosiect, hyd at uchafswm o £50,000.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:
http://business.wales.gov.uk/cy/cronfa-datblygu-digidol

Llun: Edwina Hart, Gweinidog yr Economi 

 

Rhannu |