Mwy o Newyddion
Adnewyddu galwad am roi statws swyddogol i’r iaith Gymraeg yn yr Undeb Ewropeaidd
Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi galw unwaith eto am wneud y Gymraeg yn iaith swyddogol o fewn yr Undeb Ewropeaidd.
Siaradodd Jill Evans wrth i Senedd Ewrop ystyried adroddiad pwysig yr wythnos hon ynglŷn â ieithoedd Ewropeaidd sy’n wynebu difodiant a’r angen am fwy o gefnogaeth ar gyfer amrywiaeth ieithyddol. Jill Evans yw arweinydd Grŵp Cynghrair Rydd Ewrop (EFA), sydd wedi bod yn gweithio ers sawl blwyddyn dros gydraddoldeb ar gyfer pob iaith o fewn yr Undeb Ewropeaidd.
Cafodd yr adroddiad ei ysgrifennu gan gyd-aelod Jill Evans yng Ngrŵp EFA, sef François Alfonsi ASE, yr unig ASE yn y Senedd sy’n siarad iaith ynys Corsica.
Dyma astudiaeth fanwl gyntaf Senedd Ewrop o amrywiaeth ieithyddol a sut mae gwarchod ieithoedd yn Ewrop sydd dan fygythiad ers yr 1990au.
Mae’n dilyn ymgyrch faith gan grŵp EFA sydd yn cynnwys cynhadledd fawr ar amrywiaeth ieithyddol lle y defnyddiwyd cyfieithu o’r iaith Gymraeg am y tro cyntaf yn Senedd Ewrop.
Dywedodd Jill Evans: "Fe enillon ni statws hanner swyddogol i’r iaith Gymraeg yn Ewrop yn 2008. Roedd hynny’n gam i’w groesawu ac mae wedi gwneud llawer i godi proffil Cymru, ein iaith a’n diwylliant. Ond rwy’n ei weld fel cam tuag at gyflawni gwir gydraddoldeb, sydd yn golygu cael statws llawn.
"Mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru ac fe ddylai gael yr un statws yn Ewrop. Mae hwn yn ddadl ynglŷn â chydraddoldeb i holl bobl yr Undeb Ewropeaidd. Dyma Flwyddyn y Dinasyddion ac mae’r drafodaeth ynglŷn â dyfodol yr Undeb Ewropeaidd wedi dechrau o ddifrif. I fi, mae gwneud ein holl ieithoedd yn gyfartal o ran statws yn hanfodol os ydym am sicrhau bod pobl yn teimlo fod Ewrop yn berthnasol iddyn nhw.
"Mae hwn yn ymwneud â democratiaeth a chyfiawnder a byddaf yn ei wneud yn un o faterion canolog yr Etholiad Ewropeaidd y flwyddyn nesaf.
"Croesawaf yr adroddiad newydd gyda’i alwadau am fwy o gefnogaeth gan yr Undeb Ewropeaidd i amrywiaeth ieithyddol a ieithoedd sydd dan fygythiad. Bydd yn ein helpu gyda’n nod."