Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Ebrill 2013

Cefnogi rhaglen ddigidol arloesol sy’n chwalu’r rhwystrau i ddysgu

Wrth siarad mewn digwyddiad LIFE yn ysgol gynradd Casllwchwr ddydd Llun, bu Leighton Andrews y Gweinidog Addysg yn canmol y rhaglen am ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i chwalu’r rhwystrau i ddysgu. 

Wedi’i datblygu gan Simon Pridham, pennaeth yr ysgol, ar y cyd â Chyngor Abertawe, mae’r rhaglen LIFE (Addysg Gydol Oes Hybu Pontio'r Cenedlaethau) yn cynnwys technoleg ddigidol yn y profiad dysgu ac addysgu er mwyn sbarduno gwelliannau mewn safonau a pherfformiad.

Fel rhan o’r rhaglen mae Lolfa Ddysgu LIFE yn cynnwys tabledau, sgriniau plasma a gliniaduron wedi’i threfnu yn yr ysgol ble y gall disgyblion, athrawon, cynorthwywyr dysgu ac eraill wella eu sgiliau llythrennedd TG.

Drwy alluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau digidol yr 21ain ganrif, mae’r cynllun yn anelu at leihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad disgyblion, gwella llythrennedd a rhifedd disgyblion a gwella’r profiad dysgu i blant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Meddai Leighton Andrews: “Mae LIFE yn tynnu y themâu sy’n berthnasol i addysgwyr ledled Cymru at ei gilydd: cysylltu â theuluoedd; trawsnewid bywydau plant sydd ag anghenion ychwanegol; datblygu sgiliau y mae’r diwydiant yng Nghymru eu hangen, fel y gallwn fod yn genedl ddeinamig a llewyrchus yn yr unfed ganrif ar hugain.

“Mae’r rhaglen yn canolbwyntio llawer ar fy mlaenoriaethau i ar gyfer addysg yng Nghymru: cefnogi a gwella llythrennedd a rhifedd, a lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad dysgwyr. 

“Mae’n rhaid inni gydweithio i chwalu’r rhwystrau i ddysgu a sicrhau ein bod yn datgloi posibiliadau’r rhyngrwyd i’n helpu i gyrraedd dysgwyr – ac ymarferwyr – sydd angen cymorth ac anogaeth. 

“Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £39 miliwn i sicrhau fod gan bob ysgol yng Nghymru y cysylltedd a’r seilwaith hanfodol y maent ei angen.  Rydyn ni hefyd wedi lansio Hwb, platfform dysgu digidol o safon byd-eang sy’n caniatáu i athrawon a dysgwyr gael mynediad i adnoddau ar-lein unrhyw bryd, unrhyw amser. Mae hwn yn cynnwys ein sianel iTunes U i Gymru.”

Llun: Leighton Andrews

Rhannu |