Mwy o Newyddion
Rhagfarn Cyngor Caerdydd yn erbyn addysg Gymraeg
Meddai Nona Gruffudd- Evans, Cadeirydd RhAG Caerdydd, "Rydym yn cwestiynu sail y rhagdybiaeth fod angen am lefydd ychwanegol yn y sector Saesneg i gynyddu'r ddarpariaeth o 33% mewn ardal ble mae llefydd ar hyn o bryd yn y 4 ysgol cyfrwng Saesneg sy'n gwasanaethu'r ardal, ond nad oes lleoedd digonol yn yr unig ysgol Gymraeg sef Ysgol Glan Morfa, ble cafwyd 39 cais am 30 lle ar gyfer y Derbyn ym Medi 2013. Yr un fu'r patrwm llynedd hefyd gyda'r galw am lefydd yn uwch na rhif mynediad swyddogol Glan Morfa.
"Caiff y rhagamcanion am dwf yn y nifer o fabanod sy'n cael eu geni yn yr ardal ei seilio ar ystadegau a gafwyd trwy'r Bwrdd Iechyd Lleol.
"Yn naturiol nid yw'r rhieni wedi dewis rhwng addysg Saesneg ac addysg Gymraeg ac mae'r sir wedi cymryd yn ganiataol bod yr holl dwf yn dymuno addysg Saesneg.
"Mae hyn yn hollol ddi-sail ac yn mynd yn groes i egwyddorion Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, Llywodraeth Cymru, sy'n rhoi cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i wella'r broses o gynllunio darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y cyfnodau addysg cyn statudol a statudol, ar sail ymateb yn rhagweithiol i'r galw gwybodus ymhlith rhieni.
"Ers agor Ysgol Glan Morfa yn 2005 mae nifer cynyddol o rieni'r ardal wedi dewis Addysg Gymraeg, galw sy'n cyfateb erbyn hyn i oddeutu 20% o'r ddarpariaeth leol. Felly os oes bwriad i ychwanegu 60 o leoedd mae angen sicrhau fod o leiaf 20% o'r rhain yn leoedd cyfrwng Cymraeg."
Meddai Michael Jones, Cydlynydd RhAG yn y De ddwyrain, "Mae angen i'r sir addasu'r cynllun er mwyn cynnwys darpariaeth am leoedd ychwanegol cyfrwng Cymraeg ar unwaith ac nid ymhen 2 flynedd.
"Mae RhAG yn galw ar sicrhau ychwanegiad i Ysgol Glan Morfa erbyn Medi nesaf ac i ystyried opsiynau o bosibl mewn adeilad sy'n ffinio â iard yr ysgol. Mae'r ddogfen ymgynghorol yn nodi bod lle ar safle Ysgol Moorland fyddai'n caniatau ehangu i'r ysgol dderbyn 2.5 ffrwd yn lle 2. Am fod Ysgol Moorland yn rhannu campws â Glan Morfa, awgrymwn y dylid hepgor ehangu Moorland ac yn lle hyn ehangu Glan Morfa. Ni fydd angen yr hanner ffrwd ychwanegol yn Moorland os ceir sylweddoliad nad yw'r twf yn debyg o gael ei gyfyngu i'r sector Saesneg.
"Rhaid pwysleisio mai Glan Morfa yw'r unig ysgol Gymraeg sy'n gwasanaethu'r ardal ac nad yw'r ysgolion cyfrwng Cymraeg eraill sydd wedi'i lleoli yn nwyrain y ddinas yn opsiynau hwylus na hygyrch i rieni gan eu bod yn gwasanaethu cymunedau cwbl wahanol.
"Yng nghyd-destun addysg Gymraeg mae'r sefyllfa dan sylw'n tanseilio gweledigaeth y Cyngor o ddarparu 'ysgolion lleol i blant lleol' ac yn llyffetheirio cyfleoedd cyfartal i rieni fynegi dewis am addysg Gymraeg o fewn pellter rhesymol i'w cartrefi. Wrth ystyried hynny felly, mae adrannau'r ddogfen ymgynghorol sy'n trafod 'manteision addysgol, materion cydraddoldeb ac effaith gymunedol' yn ddilornus yn y modd maent yn diystyru'r dimensiwn cyfrwng Cymraeg.
"Mae disgwyliad gan Lywodraeth Cymru fod ystyriaeth ganolog yn cael ei roi i addysg Gymraeg wrth gynllunio strategol mewn perthynas a lleoedd ysgol. Caiff ei anwybyddu'n llwyr yn yr ymgynghoriad hwn."