Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Ebrill 2013

Diwrnod Esperanto

Bydd pobl Esperanto eu hiaith yn ymgyrchu yn ystod 2013 dros gyfiawnder ieithyddol o dan y slogan " Cyfathrebu Teg", ar y cyd â'r 98fed Gyngres Ryngwladol Esperanto, a fydd yn cael ei chynnal yn y Ganolfan Harpa, Reykjavik, Gwlad yr Iâ, gyda thua 1,000 o gyfranogwyr o fwy na 50 o wledydd. Bydd y Gyngres yn trafod yr un mater.

Ar ôl cyfnod byr o 125 mlynedd mae Esperanto yn awr ymhlith y 100 o ieithoedd mwyaf a ddefnyddir, allan o tua 6,800 o ieithoedd a siaredir yn y byd. Mae'n 29eg iaith mwyaf a ddefnyddir yn Wicipedia, o flaen Swedeg, Siapaneg a Lladin. Ac mae Esperanto yn cael ei ddefnyddio ymysg yr ieithoedd a ddewiswyd gan Google, Skype, Firefox, Ubuntu a Facebook.

Yn ddiweddar mae Google Translate, y rhaglen gyfieithu, wedi ychwanegu’r iaith at ei rhestr fawreddog o 64 iaith. Hefyd heddiw mae ffonau sgrîn-gyffwrdd symudol yn gallu defnyddio Esperanto.

Mae mwy o bobl bellach yn siarad Esperanto na’r iaith Islandeg, yn ôl y llyfr o ffeithiau am y byd a gyhoeddwyd gan y CIA yn America.

Dysgir Esperanto yn swyddogol mewn 150 o brifysgolion a sefydliadau addysg uwch eraill, ac mewn 600 o ysgolion elfennol ac uwchradd mewn 28 o wledydd.

Mae ganddo lenyddiaeth gyfoethog sy'n cynnwys mwy na 50,000 o deitlau, gyda chyhoeddiadau newydd yn ymddangos bob wythnos.

Mae yna hefyd orsaf radio 24-awr gyda'r enw "Muzaiko" a hefyd teledu rhyngrwyd oTsieina. Mae Esperanto wedi cael ei ddal yn ôl gan ragfarn a diffyg gwybodaeth am ffeithiau.

Mae Adolf Hitler a Joseph Stalin wedi erlid siaradwyr Esperanto. Mae'n ddiddorol, felly, er bod y ddau unigolyn wedi marw, fod Esperanto yn dal I fyw. Mae wedi symud ymlaen, tyfu, ac esblygu i fod yn iaith fyw mewn mwy na 100 o wledydd ledled y byd.

Mae UEA (y Gymdeithas Esperanto Fyd-eang) yn mwynhau sefyllfa o bartneriaeth ymgynghorol gydag UNESCO, ac mae hefyd yn mwynhau perthynas swyddogol gyda'r Cenhedloedd Unedig a Chyngor Ewrop.

Mae Esperanto yn galluogi cyfathrebu rhyngwladol ar lefel gyfartal, ac felly yn diogelu hawliau lleiafrifol a ieithoedd brodorol a thrwy hynny parchu amrywiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol eu siaradwyr.

 

Rhannu |