Mwy o Newyddion
Codi’r to ar waith adnewyddu yng Nghastell Caeriw
Mae safle hanesyddol a reolir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn awr yn edrych ymlaen at ddyfodol disglair, yn dilyn cwblhau rhaglen waith adnewyddu cyffrous.
Ar ôl rhaglen brysur o waith dros fisoedd y gaeaf, ail-agorwyd Castell Caeriw yn swyddogol ar 18 Ebrill, yn ystod ymweliad gan Weinidog Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, John Griffiths AC.
Wrth siarad yn yr agoriad roedd yn amlwg fod Mr Griffiths wedi cael ei blesio gyda’r datblygiad newydd: "Pan wnaethon ni lansio’r Prosiect Twristiaeth Treftadaeth, y nod oedd i gefnogi ein treftadaeth yma yng Nghymru, ond hefyd ei ddefnyddio i roi hwb i'r economi drwy gynyddu twristiaeth a gwella profiadau ymwelwyr.
“Mae datblygiad y ganolfan ymwelwyr yma yng Nghastell Caeriw yn ogystal a chreu gofod digwyddiadau a gwell mynediad yn bendant yn bodloni’r nodau hynny.
“Mae hefyd yn dangos y manteision o allu dod ag arian Ewropeaidd i mewn, gan ychwanegu gwerth sylweddol at y cyllid sydd eisoes yn cael ei gyfrannu gan Lywodraeth Cymru."
Dywedodd Cadeirydd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, y Cynghorydd Tony Brinsden: "Rydym yn falch iawn o groesawu'r Gweinidog i Caeriw i weld y gwelliannau gwych i'r castell, gan gynnwys y gwaith adnewyddu i do Neuadd Lesser ysblennydd, sydd yn adfer un o safleoedd mwyaf blaenllaw y castell.
"Neuadd Lesser oedd calon wreiddiol y castell a gallwn yn awr edrych ymlaen at ystod eang o weithgareddau newydd a defnydd cymunedol a fydd yn dod â'r gofod yn fyw unwaith eto ac yn darparu lleoliad gwych ar gyfer llu o ddigwyddiadau a gweithgareddau ysgolion.
"Bydd y gwelliannau i’r castell yn gwneud gwahaniaeth anhygoel i ddehongliad y safle ar gyfer y cyhoedd a chriwiau ysgol yn ogystal â chynnig canolfan ymwelwyr sydd yn fwy croesawgar.
"Rydym yn hynod o ddiolchgar am y cymorth ariannol a dderbyniwyd ar gyfer y prosiect hwn, a fydd nid yn unig yn gwella’r cyfleusterau yng Nghastell Caeriw, ond hefyd yn cynyddu apêl twristiaeth ehangach y sir."
Mae’r cynlluniau adnewyddu hefyd yn cynnwys canolfan ymwelwyr newydd a siop, yn ogystal â gwelliannau i’r maes parcio.
Mae Castell Caeriw yn un o'r cynlluniau sydd yn elwa o Brosiect Twristiaeth Treftadaeth Cadw, sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae cyllid hefyd wedi ei fuddsoddi gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.
Llun: Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, John Griffiths AC, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Cyng. Tony Brinsden, Cyng. John Brock MBE a Teresa Hogsflesh, Rheolwr Castell Caeriw