Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Ebrill 2013

Pryderon ynglŷn â chynlluniau peilon ar gyfer Ynys Môn a'r Fenai

Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi gofyn i’r Comisiwn Ewropeaidd i ymchwilio i weld a yw’r ymgynghoriad ynglŷn â chais y Grid Cenedlaethol ar gyfer cysylltiad trydan newydd wedi cael ei gynnal yn gywir. Ceir cyfreithiau Ewropeaidd i sicrhau bod pobl yn cael eu hymgynghori’n iawn, yn enwedig ar gynlluniau mawr fel hwn.

Mae Jill Evans wedi ysgrifennu at y Comisiwn gyda thystiolaeth a ddarparwyd gan bobl leol sydd yn dangos nad oedd yr holl opsiynau yn agored iddyn nhw yn ystod y broses ymgynghori. Mae’r cysylltiad newydd wedi cael ei gynllunio i ddiwallu anghenion datblygiadau ynni, fel gorsaf bŵer niwclear arfaethedig Wylfa B yn Ynys Mon a fferm wynt oddi ar yr arfordir ym môr Iwerddon. Mae rhan gyntaf yr ymgynghoriad wedi cau erbyn hyn.

Dywedodd Jill Evans: “Rwyf wedi gofyn i’r Comisiwn gynnal ymchwiliad i weld os cafodd yr ymgynghoriad ei gynnal yn unol â’r gyfraith. Mae’n ymddangos na chafodd yr holl opsiynau eu cyflwyno ar sail gyfartal a bod ffurflenni’r Grid Cenedlaethol yn gamarweiniol.

"Er mwyn cael ymgynghoriad ystyrlon, mae’n hanfodol fod gan bobl y gallu i ddylanwadu ar y broses o’r cychwyn cyntaf. Fodd bynnag, yn yr achos hwn, er gwaetha’r gefnogaeth gref i osod ceblau dan y ddaear neu o dan y dŵr, teimlai pobl na roddwyd ystyriaeth ddifrifol i’r opsiynau hyn a taw gosod peilonnau oedd y dewis a oedd ganddyn nhw mewn golwg o’r cychwyn cyntaf.

"Mae hwn yn ddatblygiad pwysig iawn, i drosglwyddo tua 10% o ynni’r DG, ac fe allai fod yn un a gaiff effaith anferth ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a phontydd eiconig byd-enwog, y diwydiant twristiaeth a chymunedau a busnesau lleol.

“Mae’r bobl rwyf wedi sgwrsio â nhw wedi cynnal cyfarfodydd cyhoeddus a dosbarthu gwybodaeth mewn ymgais i sicrhau bod eu lleisiau nid yn unig yn cael eu clywed ond yn cael gwrandawiad hefyd. Mae’n annerbyniol y byddai’n rhaid iddyn nhw ddioddef canlyniadau datblygiad mor niweidiol am resymau sy’n seiliedig ar gost." 

Caiff yr ymgyrch yn erbyn y peilonau ei gefnogi gan Blaid Cymru eisoes yn y Cynulliad, San Steffan a’r Cyngor Sir.

Ychwanegodd  Hywel Williams, AS Arfon, Cadeirydd y grŵp ymgyrchu: “Unwaith eto, mae natur gyfyng yr ymgynhoriad yma’n dangos pa mor hanfodol yw hi i feddwl yn strategol ynglŷn â throsglwyddo ynni a’r holl gynlluniau y gellir eu cynnig.

"Rwy’n anobeithio o weld y camau a gymerwyd gan y Grid Cenedlaethol hyd yn hyn ac rwy’n parhau i roi pwysau arnyn nhw a llywodraeth Llundain  i roi ystyriaeth gywir i farn pobl Arfon, Ynys Môn a Chymru. 

“Ar hyn o bryd, mae hwn yn fater ar gyfer yr Ysgrifennydd Gwladol yn San Steffan, yn hytrach na Llywodraeth Cymru. Mae hwn yn hollol anghywir yn fy marn i.

“Byddwn ni ym Mhlaid Cymru yn parhau i wthio am ddatganoli’r gallu i wneud  penderfyniadau ar y mater yma a materion eraill sydd yn ganolog i les a ffyniant ein gwlad.”

Llun: Jill Evans

Rhannu |