Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Ebrill 2013

Ffwrnais chwyth newydd yn arwydd o ffydd Tata Steel yng Nghymru

Diolchodd  Carwyn Jones, y Prif Weinidog, gwmni Tata Steel am ddangos ffydd a hyder yng Nghymru, yn ystod ymweliad â safle Port Talbot yr wythnos ddiwethaf i weld Ffwrnais Chwyth Rhif 4 ar waith.

Dywedodd y Prif Weinidog: “Y cynllun yma i ailadeiladu Ffwrnais Chwyth Rhif 4 ym Mhort Talbot, sy’n werth £185 miliwn, oedd y prosiect peirianneg diwydiannol mwyaf i’w gwblhau yn y Deyrnas Unedig y llynedd.

"Mae’n dangos bod gan Tata Steel ffydd o hyd yn ei safle yng Nghymru a hyder yng ngweithwyr Cymru.

“Er bod y diwydiant dur yn wynebu cyfnod anodd drwy’r byd, mae’r ffwrnais chwyth newydd yn fuddsoddiad sylweddol yn nyfodol hirdymor y safle.

“Mae gennym berthynas agos iawn â’r cwmni – yma yng Nghymru ac yn India – ac rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi presenoldeb pwysig Tata Steel yng Nghymru a’i gyfraniad gwerthfawr i economi’r wlad.”

 

Rhannu |