Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Ebrill 2013

Mae gan lywodraeth leol ran mewn creu swyddi

Mae Plaid Cymru wedi tynnu sylw at y modd y gall llywodraeth leol chwarae eu rhan mewn creu swyddi trwy wella arferion caffael. Mae’r blaid wedi galw am ddefnyddio deddfwriaeth i sicrhau fod contractau’r sector cyhoeddus Cymreig yn cael eu dyrannu yn ddoeth er mwyn manteisio i’r eithaf ar greu swyddi a buddsoddi yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, ond rhybuddiodd Plaid Cymru, oni weithredir ymhellach, yna fe fydd Cymru yn gweld yr arbedion, ond nid yn cael yr holl fanteision.

Meddai arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood: “Caffael yw un o lwyddiannau’r Cynulliad Cenedlaethol. Trwy sicrhau fod arian cyhoeddus Cymru yn cael ei wario yn economi Cymru, yna gallwn greu a chefnogi swyddi. Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gweithio tuag at gyrraedd targed o 75% o gaffael lleol yng Nghymru oherwydd ein bod yn gwybod y gallai hynny greu 46,000 o swyddi yma. Fe wnâi hynny dolc enfawr yn y ffigyrau diweithdra.

“Gall gwario’r arian hwnnw gyda chwmnïau lleol yn ein cymunedau lleol hefyd gael sgil-effeithiau buddsoddi sylweddol. Trwy greu’r galw, fe fyddwn hefyd yn gwella sgiliau ein gweithlu, yn cynyddu nifer y swyddi, a byddwn yn cefnogi ein heconomïau lleol a chenedlaethol.

“Mae llawer o fusnesau wedi dweud wrthym fod angen symleiddio’r broses o fidio am waith, ac oherwydd hynny, ar lefel llywodraeth leol yn benodol, rydym wedi dadlau dros ddad-fwndelu contractau. Rydym hefyd wedi gweithio i symud rhwystrau i’w gwneud yn haws i gwmnïau bach, lleol ymgeisio am gontractau. Mate ryw hyn o gefnogi ein cwmnïau a chynnal ein heconomi.

“Caffael yw un ffordd lle mae Plaid Cymru wedi gwneud gwir wahaniaeth i lefelau diweithdra a pherfformiad economaidd, ac fe fyddwn yn parhau i bledio’r achos dros sicrhau bod arian trethdalwyr Cymreig yn cael ei ddefnyddio mor ddoeth ag sydd modd, er lles ein cymunedau.”

Llun: Leanne Wood

 

Rhannu |