Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Ebrill 2013

Canwr Steve Eaves i ymuno â'r brotest

Bydd yr arwr roc Steve Eaves yn canu mewn protest yn erbyn y datblygiad tai dadleuol ym Mhenybanc ger Rhydaman ddydd Sadwrn yma (11:30yb, Ebrill 20fed).

Yn dilyn rali a gynhelir ar y cyd rhwng Cymdeithas yr Iaith a Grŵp Gweithredu Penybanc bydd Steve Eaves yn canu yn Neuadd Les Penybanc tra bydd ymgyrchwyr yn trafod y camau nesaf ymlaen.

Dwedodd Sioned Elin, cadeirydd Cymdeithas yr iaith yn yr ardal: "Rydyn ni'n falch iawn fod un o gantorion mwyaf poblogaidd Cymru'n ystod y chwarter canrif diwethaf wedi cytuno i ddod i gefnogi'r brotest ar y cyd gyda'r band ifanc lleol Banditos.

"Mae Cymdeithas yr Iaith eisoes wedi codi baner yn datgan “Nid yw Sir Gâr ar Werth” ar safle'r datblygiad felly dyma gam nesaf yr ymgyrch. Byddwn yn trafod eto gyda phobl leol ddydd Sadwrn beth gallwn ni i gyd wneud er mwyn cefnogi eu gwrthwynebiad i'r holl dai yma.

“Bydd y datblygiad yma'n cael effaith ar draws y Sir, nid ym Mhenybanc yn unig. Bydd cyfle i hyrwyddo'r neges ymhellach nad yw Penybanc na Sir Gâr ar werth yn y gig bydd Steve Eaves a Banditos yn ei chwarae yng Nghaerfyrddin gyda'r nos hefyd.”

Llun: Steve Eaves

 

 

Rhannu |