Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Ebrill 2013

Mae’n rhaid i ansawdd bywyd fod yn ffocws i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru

Wrth lansio ei fframwaith ar gyfer Gweithredu pedair blynedd newydd, mae Comisiynyd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira, wedi galw am lawer mwy o ffocws ar ansawdd bywyd o fewn gwasanaethau cyhoeddus, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cydnabod ac ymateb i anghenion holl bobl hŷn.

Mae’r Fframwaith ar gyfer Gweithredu yn amlinellu blaenoriaethau’r Comisiynydd a’r newidiadau y mae’n disgwyl eu gweld ar gyfer pobl hŷn yn ogystal â’r rôl y bydd ganddi o ran cyflwyno’r newidiadau hyn.

Mae'r rhain yn cynnwys gosod lles wrth galon gwasanaethau cyhoeddus, gwella ansawdd gofal cymdeithasol ac iechyd, gwarchod a gwella gwasanaethau cymunedol, cynrychioli pobl hŷn sydd mewn perygl o niwed a mynd i’r afael â rhagfarn, anghydraddoldeb a gwahaniaethu.

Wrth siarad yn y lansiad, dywedodd Sarah Rochira: “Rwy’n teithio’n helaeth ledled Cymru yn cyfarfod a siarad â phobl hŷn, yn eu holi beth maen nhw am i mi ganolbwyntio arno fel eu Comisiynydd.

"Ychydig iawn sydd erioed wedi siarad â mi am wasanaethau neu systemau, maen nhw’n siarad am ansawdd bywyd a’r bywyd maen nhw am ei fyw – bywyd ac iddo werth, ystyr a phwrpas.

“Mae lleisiau pobl hŷn, yn ogystal â lleisiau’r rheini sy’n gofalu amdanyn nhw ac sy’n eu cefnogi nhw, wedi llunio fy mlaenoriaethau yn y Fframwaith hwn ar gyfer Gweithredu. Eu Fframwaith ar gyfer Gweithredu nhw yw hwn, y newid sydd ei eisiau a’i angen ar bobl hŷn, ac fel Comisiynydd, fy rôl i yw cyflwyno'r newid hwn a dylanwadu arno.

“Mae fy Fframwaith Gweithredu yn galw am ragor o ffocws ar ansawdd bywyd, sy’n hollbwysig er mwyn llwyddo i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus sy’n diwallu anghenion pobl hŷn. Felly, rydw i wrth fy modd bod y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi’r wythnos hon fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi lles wrth galon gwasanaethau cymdeithasol ac ar draws ei rhaglen lywodraethu.

"Rwy’n gobeithio y bydd eraill, fel Llywodraeth Cymru, yn dilyn fy arweiniad wrth ddefnyddio model ansawdd bywyd fel sail i lunio a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus.

“Er gwaethaf yr enghreifftiau niferus o arfer da ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl hŷn, dydyn ni ddim yn cael y pethau sylfaenol yn iawn yn rhy aml.

"Rwy’n disgwyl i wasanaethau cyhoeddus gael pethau’n iawn i’r holl bobl hŷn yng Nghymru, a byddaf bob amser yn eu cydnabod ac yn eu canmol pan fyddan nhw’n gwneud hynny – ond lle ceir methiannau, byddaf yn eu dal yn atebol, ac os bydd angen, byddaf yn defnyddio fy mhwerau cyfreithiol i warchod pobl hŷn a chyflwyno’r newidiadau angenrheidiol.

“Fydd hi ddim yn hawdd cyflwyno’r newid hwn. Bydd gofyn i ni i gyd fod ar ein gorau, meddwl ac ymddwyn yn wahanol a bod yn ddewr ac yn feiddgar. Dylen ni fod yn uchelgeisiol, nid ar gyfer pobl hŷn heddiw yn unig, ond ar gyfer y cenedlaethau iau a fydd yn dilyn, er mwyn gwneud Cymru’n lle da i heneiddio – nid dim ond i ambell un, ond i bawb.”

 

Rhannu |