Mwy o Newyddion
Talu am ofal cymdeithasol i’r henoed yng Nghymru
Mae AC y Canolbarth a’r Gorllewin Simon Thomas wedi codi pwnc talu am ofal cymdeithasol i’r henoed yn ystod dadl fer yn y Senedd dan y teitl: ‘Pam nad Dilnot? Talu am ofal cymdeithasol i’r henoed yng Nghymru’.
Mae Llywodraeth San Steffan wedi sefydlu comisiwn i ymchwilio i bwnc talu am ofal, dan gadeiryddiaeth Andrew Dilnot.
Er mai ymwneud yn bennaf â chyllido gwasanaethau gofal cymdeithasol yn Lloegr, bydd gan rai o’i argymhellion effaith ar Gymru.
Un o’r argymhellion oedd y dylid capio cyfraniad at gostau gofal cymdeithasol y bydd angen i unrhyw unigolyn wneud ar ffigwr rhwng £25,000 a £50,000, gydag argymhelliad am lefel o £35,000. Dylai’r sawl sydd â chostau gofal dros y ffigyrau y cytunwyd arnynt fod yn gymwys am gefnogaeth lawn gan y wladwriaeth.
Mae llywodraeth y Ceidwadwyr/Democratiaid Rhyddfrydol wedi mynegi cefnogaeth i egwyddorion model Comisiwn Dilnot– gwarchodaeth ariannol trwy gapio costau a phrawf modd estynedig fel sail i unrhyw fodel cyllido newydd.
Bydd Mr Thomas, AC Plaid Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddwyn cynigion gerbron fel y gall pobl gynllunio ar gyfer eu hen oed.
Meddai AC y Canolbarth a’r Gorllewin: “Mae gennym boblogaeth sydd yn heneiddio yng Nghymru. Gŵyr pawb y bydd mwy o alw ar wasanaethau gofal cymdeithasol i’r henoed. Awgrymodd Comisiwn Dilnot gap ar y cyfraniad mae unigolyn yn wneud.
“Yng Nghymru, bydd yn rhaid i ni gael rhyw fath o gap; fodd bynnag, mae’n rhaid i unrhyw fodd o gyllido gofal cymdeithasol ateb yr anghenion a osodwyd arno gan natur benodol cymdeithas Cymru. Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi gerbron eu cynigion eu hunain rhag blaen fel y gall pobl ddechrau cynllunio ar gyfer eu hen oed.
“Mae Plaid Cymru eisiau gweld cymunedau bywiog a chynaliadwy. Rhan o’n gweledigaeth yw sicrhau fod pobl oedrannus yn cael parch a gofal yn y dyfodol.”
Llun: Simon Thomas