Mwy o Newyddion
Cau gorsaf fysiau Llanelli dros dro
Bydd gorsaf fysiau Llanelli yn cau ar wahanol adegau yn ystod y ddau benwythnos ar ddiwedd Ebrill a dechrau Mai er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw ac ailwynebu rhan o'r safle.
Bydd yr orsaf fysiau ar gau am ddiwrnod cyfan ddydd Sul, 28 Ebrill ac o 6pm ddydd Sadwrn 4 Mai a thrwy'r dydd ddydd Sul 5ed Mai a Gŵyl Banc Calan Mai ar 6 Mai.
Bydd yr orsaf ond yn cau os yw'r tywydd yn addas ar gyfer gwneud y gwaith. Gallai glaw trwm achosi i'r gwaith gael ei ohirio am wythnos.
Caiff trefniadau eraill eu gwneud er mwyn i fysiau adael o'r arosfannau dros dro canlynol ar y dyddiadau hyn:
Gwasanaethau 110/111/112 i Abertawe; Gwasanaeth 111 i Gydweli; Gwasanaeth 128 i Rydaman a Gwasanaeth 404 i Bontarddulais ac Abertawe a'r Gwasanaeth 507 National Express yn gadael o arhosfan dros dro yn Swanfield Place, ger Archfarchnad Aldi (ar draws y ffordd o Gapel Seion a'r Ffwrnes ger hen fragdy Buckley.)
Bydd Gwasanaeth 128 i Barc Trostre a Pharc Pemberton; Gwasanaethau 185 ac 198 i Gaerfyrddin; Gwasanaeth 197 i'r Meinciau a Chaerfyrddin a Gwasanaeth 196 i Orsaf Reilffordd Llanelli yn gadael o'r arhosfan yn y gilfan o flaen Dominos Pizza a siop Subway ger hen Fragdy Buckley.