Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Ebrill 2013

Hwb digidol Cymraeg ar-lein i Gaerdydd

Mae’r Dinesydd, mewn parterniaeth â Menter Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd yn bwriadu datblygu gwefan newydd a fydd yn hwb cymunedol i’r Brifddinas yn dilyn cyfarfod cyffrous yn Chapter yr wythnos yma.

Bydd y prosiect yn symud yn symud ymlaen trwy greu tim golygyddol a chyfranwyr yn dilyn trafodaeth yng nghwmni nifer o unigolion sy’n arbenigo ac ymddiddori yn y maes digidol.

Y bwriad yw datblygu cymuned ar-lein a fydd yn ffynhonnell o wybodaeth ryngweithiol fywiog a pherthnasol i fywyd bob dydd yng Nghaerdydd.

Ni fydd y wefan hon yn disodli'r Dinesydd printiedig sy’n dathlu 40 mlynedd o fodolaeth eleni ar ei ffurf bresennol ond yn creu cyfrwng fydd yn adlewyrchu holl fwrlwm y Brifddinas drwy apelio at gynulleidfa newydd.

Dwedodd Sara Moseley, Prifysgol Caerdydd: “Hoffem ddiolch i’r Is Ganghellor newydd y Brifysgol, Yr Athro Colin Riordan, am ei gefnogaeth ariannol a’i awydd i ddatblygu cysylltiadau â phrosiectau lleol fel y Dinesydd digidol."

 

Rhannu |