Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Ebrill 2013

Awdur Llawryfog newydd pobl ifainc Cymru

Mae  Llenyddiaeth Cymru  wedi cyhoeddi penodiad y bardd a’r perfformiwr byw Martin Daws fel Awdur Llawryfog Pobl Ifainc Cymru, 2013-2015.

Mae cynllun Awdur Llawryfog Pobl Ifainc Cymru yn rhoi llwyfan hollbwysig i gymunedau ieuenctid dros Gymru gyfan i ddatblygu eu llais creadigol ac i drafod materion sy’n berthnasol i bobl ifainc heddiw.

Bydd Martin yn defnyddio amrediad eang o gyfryngau, o bît-bocsio a rapio i rigymau a sonedau i ysgogi cyffro heb ei debyg o’r blaen am lenyddiaeth ymysg y genhedlaeth nesaf.

Ymysg y cynlluniau sydd ar droed y mae gweithio gyda phobl ifainc i greu eu maniffestos barddonol eu hunain, ysgol undydd i awduron a gweithwyr ieuenctid ar sut i drefnu gweithgarwch llenyddol hygyrch ac apelgar, a thaith farddonol o amgylch cymunedau gwledig Cymru.

Mae’r penodiad dwy flynedd yn cydnabod profiad helaeth Martin o addysgu am faterion a phynciau o bwys drwy ddulliau creadigol. Mae dros 17,000 o bobl wedi cymryd rhan yn ei weithdai dros y blynyddoedd, mewn pob math o amgylcheddau gwahanol yn cynnwys yr ystafell ddosbarth, theatrau, coedwigoedd, gwyliau, prifysgolion, amgueddfeydd a hyd yn oed arosfannau bysiau.

Meddai Martin Daws: “Rwyf wrth fy modd o gael derbyn y rôl, ac i gael y cyfle i ddathlu ein traddodiadau barddonol yn y modd yr wyf yn ei adnabod orau - sef drwy feithrin y genhedlaeth nesaf o feirdd ifainc. Rwy’n credu fod yna farddoniaeth i bawb, a bod hefyd barddoniaeth ym mhawb. Fel Awdur Llawryfog Pobl Ifainc Cymru rwy’n edrych ymlaen at gynnig y cyfle i bob person ifanc yng Nghymru i ddod o hyd i’r farddoniaeth hwnnw.

“Rwyf wrth fy modd gyda phenodiad Martin fel yr Awdur Llawryfog i Bobl Ifainc” meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru. “Bydd ei egni fel perfformiwr ac arweinydd gweithdai yn gwneud llenyddiaeth yn gelfyddyd fywiog, apelgar a pherthnasol i bobl ifainc yng Nghymru heddiw. Mae ysgrifennu creadigol yn sianel hollbwysig i fynegi’r hunan – a gydag anogaeth a brwdfrydedd Martin bydd llawer mwy o bobl ifainc yn magu’r hyder i ddweud eu dweud.”

Meddai Tracey Thompson, Gweithiwr Ieuenctid gyda Phrosiect Canolfan Ieuenctid Gwersyllt ger Wrecsam: “Roedd gweithio gyda Martin ar y prosiect Eat My Words yn brofiad cadarnhaol iawn i’r staff ac i’r bobl ifainc. Fe gyflwynodd y prosiect bethau newydd i’r grŵp, eu gwthio ychydig o’u man diogel, a rhoi sgiliau newydd a hyder iddynt…mae’r prosiect wedi trawsnewid eu barn am farddoniaeth a’u hysbrydoli i ysgrifennu mwy.”

Meddai’r nofelydd poblogaidd ac Awdur Llawryfog Pobl Ifainc Cymru 2011-13, Catherine Fisher, “Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i Martin Daws fel yr Awdur Llawryfog newydd. Rwy’n siŵr y bydd ei frwdfrydedd a’i egni yn annog llawer mwy o ddarllenwyr ifainc i ymwneud â byd hudolus llyfrau a barddoniaeth.”

Bydd Martin yn gohebu yn ddyddiol gan ddefnyddio cyfrif Twitter @YPLWales, gan roi cyfle i bobl ifainc ac oedolion sgwrsio gydag o a chymryd rhan mewn prosiectau rhyngweithiol fel creu cerddi torfol.

Bydd yn cynnig nifer o weithdai cyfrwng Saesneg ym mis Mai, yn y cnawd ac ar-lein, fel rhan o brosiect Maniffesto Pobl Ifainc Cymru. Gallwch wneud cais am weithdy, sydd ar gyfer grwpiau ieuenctid, grwpiau o awduron ifainc ac ysgolion uwchradd, drwy gysylltu â Llenyddiaeth Cymru erbyn dydd Mawrth 30 Ebrill 2013.

Bydd Martin Daws, yn ei rôl fel Awdur Llawryfog Pobl Ifainc Cymru, yn ymuno â Bardd Plant Cymru newydd, a gyhoeddir yn Eisteddfod yr Urdd ar 28 Mai. Mae Bardd Plant Cymru yn gweithio gyda phlant drwy Gymru gyfan i’w hysbrydoli a hyrwyddo cariad at lenyddiaeth.

Ewch i www.youngpeopleslaureate.org am fwy o wybodaeth ac i gymryd rhan, neu cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru.

Llun: Martin Daws

Rhannu |