Mwy o Newyddion
Arglwydd Owen yn siarad am argyfwng rhanbarth yr ewro
Bydd y Cyn-Ysgrifennydd Tramor ac yn un o aelodau gwreiddiol Plaid y Democratiaid Cymdeithasol, yr Arglwydd David Owen yn traddodi darlith gyhoeddus ar Ddiwygio'r Ewro a pholisi UE Prydain yr wythnos nesaf.
Bydd yr Arglwydd Owen yn dadlau bod argyfwng Ewrop nid yn unig yn ymwneud â gwendidau technegol wrth fabwysiadu arian sengl. Y mae’n ymwneud yn fwy sylfaenol ag anghydnawsedd y gwahanol fodelau y mae llywodraethau’r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn eu dilyn wrth honni eu bod yn ymgysylltu mewn ymdrech gyffredin
Mae'n credu y dylai gwledydd sy’n gweld eu dyfodol yn rhan o undeb sy’n closio fwyfwy fod yn rhydd i fynd ar drywydd y nod hwnnw. Ond y dylid parchu sofraniaeth y rhai sy’n ffafrio undeb o wladwriaethau yn eu llywodraethu’u hunain ac yn rhan o farchnad sengl wedi’i hailstrwythuro.
Bydd yr Arglwydd Owen, a gymhwysodd fel meddyg yn 1962, cyn mynd i fyd gwleidyddiaeth, yn ateb cwestiynau wrth y gynulleidfa fel rhan o'r digwyddiad pan ddaw i Aberystwyth ar 15 Ebrill.
Dywedodd Dr Kristan Stoddart, Darlithydd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol Diogelwch Seibr yn y Brifysgol: "Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn hapus ac yn falch o groesawu’r Arglwydd David Owen i siarad yn y Brifysgol.
"Mae ei ddarlith amserol yn dod ar adeg dyngedfennol o ran cysylltiadau Prydain gyda'r UE ar gefn Argyfwng Rhanbarth yr Ewro o ganlyniad i gwymp economaidd 2008. Mae'r canlyniadau hir-dymor y digwyddiad wedi cael ôl-effeithiau ledled yr UE a gweddill y byd, a dyma gyfle i glywed gan un o brif wneuthurwyr polisi y ddeg mlynedd ar hugain diwethaf.
"Mae tensiynau rhwng llywodraethau cenedlaethol a'r UE yn sgil yr argyfwng economaidd wedi bod yn rhan o ddadleuon ynglŷn â dyfodol yr UE a lle Phrydain tu mewn i’r strwythur.
"Mae ei sgwrs, yn dilyn marwolaeth ddiweddar y cyn Brif Weinidog Margaret Thatcher, a chwaraeodd ran arwyddocaol yn y trawsnewid o Gymuned Economaidd Ewropeaidd i’r hyn a ddatblygwyd yn Undeb Ewropeaidd, yn amserol ac yn gyfle gwych i glywed gan ac ymgysylltu â siaradwr cyhoeddus dihafal a diamwys.
"Mae'n addo bod yn un o'r digwyddiadau diffiniol yng nghalendr academaidd 2012/2013. "