Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Ebrill 2013

Gwella’r amgylchedd ym Methesda

Bu disgyblion ysgol o ardal Bethesda yn brysur yn plannu 400 o goed newydd ar lan yr afon Ogwen.

Dros gyfnod o ddau ddiwrnod ynghyd â chymorth gan staff Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Clwb Rygbi Bethesda a gwirfoddolwyr o Gymdeithas Eryri, llwyddodd y disgyblion blannu dros 400 o goed cynhenid ar lannau’r afon Ogwen. Plannwyd coed cyll, gwern, bedw, derw, helyg a drain gwynion a thros 200m o leiniau cysgod ar dir Clwb Rygbi Bethesda. O ganlyniad, mae gwerth esthetig y caeau wedi gwella a bywyd gwyllt ac amgylchedd yr ardal wedi elwa ar yr un pryd.

Gethin Davies, swyddog Ecosystemau a Newid Hinsawdd y Parc Cenedlaethol a Wil Sandison, un o hyfforddwyr Tîm Rygbi Bethesda fu’n gyfrifol am ddatblygu’r cynllun.

Dywedodd Gethin: “Wrth greu cynefinoedd newydd i anifeiliaid megis adar, dyfrgwn ac ystlumod, mae coedlannau yn ffordd ragorol o storio carbon, yn ogystal â darparu cysgod a lloches mewn tywydd eithafol. Roedd hi’n wych gweld disgyblion o ysgolion Bodfeurig, Tregarth, Llanllechid, Pen y Bryn a Dyffryn Ogwen  yn ein helpu i blannu’r coed. Fe lwyddon nhw i gyfrannu at ddiogelu bywyd gwyllt yr ardal yn ogystal â gwella’r amgylchedd naturiol yn eu cymuned. Diolch i Glwb Rygbi Bethesda am y cyfle hwn.”

Cafodd y gwirfoddolwyr gwmni a chymorth cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol, a Rheolwr Rygbi Gogledd Cymru, Rupert Moon i blannu.

Dywedodd: “Mae hwn yn enghraifft wych o’r modd gall clybiau cymdeithasol a chwaraeon gynorthwyo i wella amgylchedd naturiol ardal a chael mewnbwn gan y gymuned leol ar yr un pryd.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn plannu coed yn eich cymuned, a’ch bod o fewn neu ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri, bydd Gethin Davies yn falch o glywed oddi wrthych. Gellir cysylltu ag ef ar 017766 770274, neu Gethin.davies@eryri-npa.gov.uk

 

Rhannu |