Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Ebrill 2013

Pryder am ddefaid

Mae Swyddogion y Parc Cenedlaethol yn gofyn i ffermwyr fod yn fwy gwyliadwrus o’u defaid o gwmpas y rhododendron ponticum.

Wrth i’r eira ddadmer ac arwyddion y gwanwyn yn ymddangos yn hwyrach na’r arfer, mae gan swyddogion Parc Cenedlaethol apêl i ffermwyr barhau i fod ar eu gwyliadwraeth.

Pan fo blodau porffor y rhododendron ponticum yn wledd i lygaid bodau dynol ym mis Mai, ar hyn o bryd, mae dail gwyrdd y rhywogaeth ymledol hwn yn atyniadol i ddefaid, yn enwedig pan fo prinder bwyd ar y ddaear ac archwaeth bwyd arnyn nhw. Ond, mae’r dail yn wenwynig ac mae sawl achos wedi cael eu hamlygu’n ddiweddar o ddefaid yn marw ar ôl bwyta dail y rhododendron ponticum.

Ar ran Awdurdod y Parc Cenedlaethol, dywedodd Rhys Owen, y Pennaeth Cadwraeth ac Amaeth: “Mae’r rhododendron ponticum yn blanhigyn twyllodrus iawn. Er ei fod yn edrych yn wych pan fydd yn ei flodau, mae’n hynod o wenwynig i’r rhan fwyaf o anifeiliaid, adar a phryfed.  Mae’n lledaenu’n gyflym ac ni all unrhyw blanhigion eraill fyw oddi tano gan ei fod yn taflu cysgod mor drwchus.

"Gan fod y gwanwyn yn araf eleni, a’r tir yn llwm a llwyd, mae dail gwyrdd cyfoethog y rhododendron yn ddeniadol i’r defaid. Fodd bynnag, mae ei effaith ar yr amaethwr yn gostus iawn, felly rydan ni’n apelio ar ffermwyr Eryri i fod yn wyliadwrus o’u defaid o gwmpas y planhigyn gwenwynig hwn”.

Ar hyn o bryd, yr ardaloedd sy’n dioddef waethaf yw Mawddwy, de a gogledd y Fawddach, Dyffryn Ffestiniog, ardaloedd Glaslyn a Gwynant a Betws y Coed.  Mae presenoldeb y rhododendron ponticum yn yr ardaloedd hyn naill ai’n llwyddo i ddiraddio cynefinoedd a cholli rhywogaethau neu mae’n fygythiad unionyrchol iddyn nhw. Fodd bynnag, yn 2008, mabwysiadodd yr Awdurdod Strategaeth i Reoli’r Rhododendron Ponticum yn Eryri ac yn ei sgil, ymunodd yr Awdurdod â Chyfoeth Naturiol Cymru, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chyngor Gwynedd i dargedu’r rhododendron ponticum ac mae’r gwaith o dargedu ardal Nant Gwynant yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.

Am fwy o wybodaeth am y rhododendron ponticum, neu gyngor ar sut i’w reoli yn eich gardd, ewch i www.eryri-npa.gov.uk/cym/the-environment/invasive-species/rhododendron

 

Rhannu |