Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Ebrill 2013

Lansio’r unig gynhyrchydd pasta Cymreig yng Nghymru

Mae cynhyrchydd pasta Cymreig newydd sbon wedi lansio amrywiaeth o gynhyrchion arbenigol pasta gan ddefnyddio cynhwysion gorau Cymru.  Crëwyd ‘Caru Amore Pasta’ gan Eira Roche, 36 oed, o Rhuthun, yr unig gynhyrchydd pasta Cymreig sy’n hysbys yng Nghymru.  Mae Eira’n awyddus i rannu ysbryd a natur dymhorol bwyd Eidalaidd i greu pasta a ravioli blasus Cymreig. Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd yn Llywodraeth Cymru, lansiodd y cwmni newydd yn swyddogol.

Mae Caru Amore Pasta, gyda chymorth Cywain, sef prosiect Menter a Busnes sy’n ychwanegu gwerth at gynnyrch bwyd, yn defnyddio cynhwysion Cymreig o ansawdd ar gyfer y cynhyrchion pasta newydd.  Maent yn cynnwys wyau lleol o Bentrecelyn ger Rhuthun a llefrith organig ffres Calon Wen a chaws gafr Cilmeityn.

Eglura Eira Roche, sy’n briod ac yn fam i ddau o blant: “Mae egwyddorion sylfaenol Caru Amore Pasta yn seiliedig ar brynu cynhyrchion lleol o ansawdd da a defnyddio cynhwysion tymhorol.  Mae bwyd cynaliadwy yn chwarae rhan flaenllaw yn fy ngweledigaeth i a dyna ble roedd y pwyslais pan o’n i’n gweithio mewn tŷ bwyta ac ysgol goginio ar ystad fawreddog yng nghefn gwlad Toscana. 

“Wrth weithio gyda mama Eidalaidd oedrannus yn y gegin, dysgais lawer iawn am yr ethos Eidalaidd wrth goginio.  Mae gan bob rhanbarth yn yr Eidal ei gynhwysion unigryw ei hun, ac mae bwyd yn rhan bwysig o’u diwylliant.  Roeddwn yn awyddus i ddod â pheth o’r naws Eidalaidd yn ôl i Gymru, a chynnig arlliw Eidalaidd ar fwyd o Gymru,” eglura Eira.

Dechreuodd diddordeb mawr Eira mewn bwyd pan oedd yn gweithio fel Rheolwr Tŷ Newydd, y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol yn Llanystumdwy ger Cricieth.  Rhan o’i gwaith oedd paratoi bwydlenni a helpu myfyrwyr i baratoi eu prydau gyda’r hwyr.

Mae hi hefyd wedi gweithio fel rheolwr arlwyo mewn canolfan wledig yn Nyffryn Nantlle, lle roedd ei gwaith coginio yn gysylltiedig â’r ardd lysiau ar y safle, ac fe weithiodd am gyfnod fel rheolwr arlwyo yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ym Machynlleth.  Yn sgil y profiadau hyn daeth yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd bwyd carbon isel, cynaliadwy.  Yn fwy diweddar, mae wedi dechrau gweithio fel tiwtor yn ysgol goginio Canolfan Bwyd Cymru Bodnant yn Nyffryn Conwy.

Pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun, y dechreuodd perthynas Eira â’r Eidal, wrth iddi ddysgu’r iaith fel pwnc addysgol.  Darllenodd waith Dante mewn Eidaleg fel rhan o’i gradd mewn athroniaeth yn y brifysgol a threuliodd dri haf yn yr Eidal ar deithiau cyfnewid pan oedd yn eu harddegau. 

Wrth ystyried sefydlu menter fwyd newydd ar yr un pryd ag y mae’n magu ei theulu ifanc, daeth Eira ar draws un o reolwyr Cywain yn ei Chylch Ti a Fi lleol yn Ysgol Pentrecelyn.  Dechreuodd ystyried o ddifrif ddatblygu ei phasta Cymreig ffres.

“Pan glywais am y cymorth y gallai Cywain ei gynnig i mi i ddechrau’r fenter, penderfynais bod rhaid i mi fynd amdani,” eglura Eira. 

Gyda chymorth gan Nia Môn, Rheolwr Cywain sy’n gweithio yn swyddfeydd newydd Menter a Busnes yn Llanelwy, cafodd Eira gyngor ariannol, cymorth i frandio a marchnata ac arbenigedd i ddatblygu ei chynnyrch yng Nghanolfan Technoleg Bwyd Llangefni.  Lansiodd Menter a Busnes brosiect Cywain gyda’r nod o ychwanegu gwerth at gynnyrch crai yn y sector amaeth.  Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Bydd bwydydd Caru Amore Pasta yn gweld golau dydd ar ôl misoedd lawer o gefnogaeth a gwaith caled.  Byddant yn cynnwys pasta hir ffres neu sych gan gynnwys spaghetti, tagliatelle a phappardelle.  Bydd pedwar cynnyrch ravioli blasus hefyd ar gael ar ddiwedd mis Ebrill. 

“Bydd fy mhasta yn ffres a blasus ac rwyf yn defnyddio technegau naturiol i’w cadw.  Ni fyddaf yn ychwanegu unrhyw ychwanegion a chadwolion at fy mhasta gan eu bod yn tueddu i ddifetha blas rhai o’r cynhwysion.  Bydd oes silff fy ravioli sych yn 9 diwrnod - dyma sut y dylai pasta gael ei fwyta.  Dwi’n awyddus i’m cwsmeriaid flasu pasta Cymreig go iawn, nid y pasta sy’n gyfarwydd heddiw, a brynir yn sych mewn bagiau mawr o’r archfarchnadoedd.”  

Bydd rhai o’r cynhwysion yn ravioli Caru Amore yn cynnwys caws gafr Cilmeityn o Lanwydden, Conwy, a madarch shitaki sy’n cael eu tyfu yn yr Ardd Fadarch yng nghalon mynyddoedd Eryri.  Bydd y cynhyrchion yn cynnwys Ravioli Caws Pob, Ravioli Morgannwg, sy’n defnyddio cennin lleol; Ravioli Brocoli a Boksburg Glas, sy’n defnyddio caws glas Sir Gaerfyrddin, a Ravioli Shitaki a Berwr y Dŵr. 

Yn ôl Alun Davies, Gweinidog Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am Fwyd ac Adnoddau Naturiol: “Mae hi wastad yn bleser, yn brofiad ac yn addysg cyfarfod â chynhyrchwyr bwyd.  Mae cyfarfodydd fel hyn yn rhoi’r cyfle i mi sicrhau bod gennyf ddealltwriaeth gyfredol o’r sialensau sy’n wynebu busnesau bwyd yng Nghymru, tra’n galluogi i mi flasu rhai o’r bwydydd gorau sydd ar gael yng Nghymru. 

"Cefnogwyd Caru Amore Pasta gan Fenter a Busnes tryw’r cynllun Cywain / rhaglen Datblygu Masnach.  Dwi’n falch iawn o weld bod y gefnogaeth hon wedi cael effaith adeiladol.  Mae’r gefnogaeth sydd ar gael gan Adran Ddatblygu Marchnadoedd a Bwyd a’r gefnogaeth a gynigir trwy raglenni Datblygu Masnach, a thrwy’r Cynllun Datblygu Gwledig wedi bod yn allweddol yn nhyfiant llawer o fusnesau bwyd ledled Cymru.  Dwi’n hapus iawn i fod yma heddiw i weld y lansiad a chlywed am lwyddiant cynhyrchydd pasta yng Nghymru.” 

Llun: Eira Roche, Caru Amore Pasta yn rhannu ei harbenigedd gydag Alun Jones, Prif Weithredwr Menter a Busnes (chwith) ac Alun Davies, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Fwyd ac Adnoddau Naturiol (canol) yn ystod lansio’r unig gwmni cynhyrchu pasta Cymreig yng Nghymru

 

Rhannu |