Mwy o Newyddion
Ffordd newydd i wneud gwahaniaeth
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cwblhau’r drefn o benodi uwch reolwyr newydd, a bydd yn awr yn parhau â’r gwaith o drawsnewid y ffordd y mae’r cyngor yn darparu gwasanaethau.
Meddai’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’r hinsawdd wleidyddol sy’n newid yn creu heriau mawr i bob Cyngor yng Nghymru.
"Fe benderfynodd arweinyddiaeth newydd Cyngor Sir Ceredigion ailstrwythuro trefn staffio’r Cyngor er mwyn trawsnewid a rhesymoli gwasanaethau er budd ein trigolion a’n busnesau.
"Trwy wneud y newidiadau hyn, bydd y Cyngor mewn gwell sefyllfa i ymateb i’r heriau mawr y mae Llywodraeth Cymru a'r agenda wella yn ei chynnig.
"Hefyd, mae’r hinsawdd economaidd yn wael ac mae pwysau cynyddol ar arian y sector cyhoeddus. Nid yw gwasanaethau’r Cyngor yn eu ffurf bresennol yn fforddiadwy nac yn gynaliadwy, a bydd effaith y mesurau diwygio lles yn ymestyn adnoddau’r Cyngor ymhellach.
"Mae’r newid yn y ddemograffeg a’r hinsawdd economaidd wael yn cynnig her o ran cydlyniant cymdeithasol a chymunedol. Mae disgwyliadau cymunedau hefyd yn newid yn sylweddol. Gwelwn hefyd bod datblygiadau technolegol yn newid y ffordd y mae trigolion y sir yn cyfathrebu â’r Cyngor, ac mae pobl yn disgwyl mwy oddi wrthym. Mae angen datblygu ffyrdd arloesol newydd i gynnig mynediad at wasanaethau.
"Rhaid i ni beidio ag anghofio ffactorau amgylcheddol sydd hefyd yn arwyddocaol. Mae newid hinsawdd yn her fawr wrth i Gynghorau adeiladu a hybu mwy o gydnerthedd yn lleol. Ceir gofynion o ran rheoli carbon sy’n rhoi baich cynyddol ar yr awdurdod, ac felly mae angen i’r Cyngor addasu a newid er mwyn cwrdd â’r heriau hyn.”
Bydd Bronwen Morgan yn parhau fel y Prif Weithredwr gyda Huw Morgan yn Gyfarwyddwr Strategol Cymunedau Cynaliadwy; Eifion Evans yn Gyfarwyddwr Strategol Dysgu a Ffordd o Fyw; Gwyn Jones yn Gyfarwyddwr Strategol Adnoddau Corfforaethol a Parry Davies yn Gyfarwyddwr Strategol Gofal ac Amddiffyn.
Dyma Benaethiaid y Gwasanaethau a benodwyd:
Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol: Steve Johnson
Pennaeth y Gwasnaethau T.G.Ch. a Chwsmeriaid: Arwyn Morris
Pennaeth y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion: Sue Darnbrook
Pennaeth y Gwasanaethau i Deuluoedd a Phlant: Buddug Ward
Pennaeth Comisiynu Strategol, Gofal, Sicrwydd a Gwasanaethau Tai: Allan Jones
Pennaeth y Gwasanaethau Ffordd o Fyw: Huw Williams
Pennaeth y Gwasanaethau Dysgu: Arwyn Thomas
Pennaeth y Gwasanaethau Bwrdeistrefol ac Amgylcheddol: Paul Arnold
Pennaeth Asedau a Gwasanaethau Trafnidiaeth: Keith Morgan
Pennaeth y Gwasanaethau Datblygu Economaidd a Chymunedol: Allan Lewis
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd: Claire Jones
Pennaeth Cefnogi Polisi: Rhodri Llwyd Morgan
Pennaeth Perfformiad a Gwelliant: Russell Hughes-Pickering.
Bydd y Cyfarwyddwyr Strategol yn canolbwyntio ar y materion strategol o bwys sy’n effeithio ar Geredigion, gyda’r nod o greu’r hinsawdd ar gyfer llwyddiant, a bydd Penaethiaid y Gwasanaethau yn gyfrifol am reolaeth o ddydd i ddydd. Gyda’i gilydd byddant yn gweithio at barhau i ddarparu gwasanaethau o’r math y mae trigolion Ceredigion yn eu hangen a’u haeddu, mewn cyfnod eithriadol o heriol.
Bydd gwneud pethau mewn ffordd wahanol yn amddiffyn llawer mwy o swyddi a gwasanaethau na chadw pethau fel y maent. Credwn fod gan ein haelodau ar y rheng flaen yr allwedd i sicrhau trawsnewid ac edrychwn ymlaen at hwyluso proses ymgynghori ystyrlon gyda’n haelodau yn ystod pob cam o’r trawsnewid.
Yn yr wythnosau nesaf bydd y Cyngor yn cynnal rhagor o gyfarfodydd i ymgynghori ag aelodau o staff, er mwyn rhannu’r holl wybodaeth berthnasol a sicrhau bod pawb yn cael lleisio’u barn.
Llun: Ellen ap Gwynn