Mwy o Newyddion
Llyfrgell cewynnau go iawn
Mae gwraig o Lambed wedi lansio llyfrgell cewynnau go iawn er mwyn i rieni gael rhoi cynnig arni cyn prynu!
Mae Fiona Bowden o Gwm-ann ger Llanbedr Pont Steffan yn helpu i ledaenu'r neges am fanteision cewynnau brethyn.
Mae'r llyfrgell cewynnau yn rhoi'r cyfle i rieni roi cynnig ar y cewynnau go iawn a gweld mor rhwydd ydynt i'w defnyddio. Mae'n golygu y gallant gael gwybod pa fath sy'n gweddu orau i'w plentyn cyn penderfynu prynu.
Roedd Fiona, 39 oed, wedi defnyddio cewynnau go iawn â'i chwech o blant a phenderfynodd greu'r llyfrgell cewynnau er mwyn ceisio annog rhieni eraill i roi cynnig arni.
Meddai: "Maen nhw'n rhwydd i'w defnyddio. Mae pobl yn meddwl am yr hen sgwariau terri ond 'does dim angen eu plygu na defnyddio pinnau cau. Rydyn ni'n cynnig cyngor a chefnogaeth ac rydyn ni hefyd yn gallu dangos i bobl sut i'w defnyddio. Gwasanaeth dielw yw'r llyfrgell; rydyn ni'n gofyn am flaendal bach yn unig am fenthyg y cewynnau a bydd hwn yn cael ei ad-dalu pan gânt eu dychwelyd heb eu difrodi. Defnyddir yr holl arian i brynu rhagor o stoc."
Mae'n Wythnos Cewynnau go iawn yr wythnos hon (15-21 Ebrill) felly mae'n amser delfrydol i roi'r gorau i ddefnyddio cewynnau tafladwy a rhoi cynnig ar gewynnau go iawn.
Mae'r adain gwastraff ac ailgylchu yn y Cyngor yn hyrwyddo cewynnau go iawn oherwydd maen nhw'n well i'r amgylchedd ac yn rhatach hefyd - gellir arbed hyd at £500 os bydd rhagor o blant yn eu defnyddio.
Dywedodd Karen McNeil, Swyddog Ailgylchu a Lleihau Gwastraff y Cyngor: "Mae mwy a mwy o rieni'n dysgu am fanteision cewynnau go iawn. Rydyn ni'n meddwl bod y llyfrgell cewynnau yn syniad gwych ac yn gobeithio y bydd yn annog mwy o rieni i roi cynnig arni a sylweddoli pa mor rhwydd maen nhw i'w defnyddio."
Mae'r Cyngor yn gweithio gyda Llyfrgell Cewynnau Go Iawn Llanbedr Pont Steffan i gynnal Diwrnod Cewynnau Go Iawn yng Nghanolfan Deulu Llanybydder ddydd Iau, 18 Ebrill rhwng 10am a 2pm. Bydd cyfle i brofi gwahanol fathau o gewynnau go iawn ynghyd â slingiau babanod.
Hefyd, bydd cwmnïau lleol Bum Deal Nappies a Nappy Go Lucky ac ymgynghorydd cewynnau go iawn y Cyngor ym Maes Myrddin, Caerfyrddin ddydd Sadwrn 20 Ebrill rhwng 11am a 3pm i godi ymwybyddiaeth o gewynnau go iawn.
Mae'r Cyngor yn cynnal cymorthfeydd cewynnau go iawn bob mis yng Nghaerfyrddin, Rhydaman a Llanelli ac yn cynnig pecynnau prawf cewynnau go iawn am ddim.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.sirgar.gov.uk/ailgylchu neu ffoniwch Galw Sir Gâr 01267 234567.
Mae Llyfrgell Cewynnau Go Iawn Llanbedr Pont Steffan ar Facebook.
Yn y llun mae Fiona Bowden, ei mab Louis sy'n 10 mis oed, ei merch Victoria sy'n 21 oed a'i hwyres Macey sy'n 5 mis oed. Llun: Jeff Connell.