Mwy o Newyddion
Condemnio gwleidyddiaeth “anfaddeuol” llywodraeth San Steffan
Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi awgrymu y bydd economi Cymru yn dioddef yn enbyd ar ôl y datgeliad y bydd y wlad yn colli mwy na biliwn o bunnoedd mewn blwyddyn oherwydd newidiadau i nawdd cymdeithasol.
Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol nesaf, amcangyfrifwyd y bydd Cymru wedi colli £1,070,000,000 o ganlyniad i’r gwahanol newidiadau i’r system lles.
Dywed yr adroddiad, gan y Ganolfan Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Rhanbarthol ym Mhrifysgol Sheffield Hallam, fod hyn yn cyfateb i golli £550 am bob oedolyn mewn oedran gwaith yng Nghymru. Ar draws rhanbarthau Lloegr a’r Alban, yr unig le y mae’r ffigwr hwn yn waeth yw gogledd-ddwyrain a gogledd-orllewin Lloegr.
Dywedodd Ms Wood: “Mae dyfnder a graddfa enfawr y toriadau a amlinellir yn yr adroddiad hwn yn erchyll. Am y tro cyntaf, gallwn weld effeithiau cyfun diwygio’r drefn les ar Gymru fesul ardal awdurdod lleol, diolch i’r adroddiad cynhwysfawr ac awdurdodol hwn. Mae’n annifyr iawn i’w ddarllen.
“Mae’n anfaddeuol cymryd mwy na biliwn o bunnoedd o bocedi’r sawl all ei fforddio leiaf yng Nghymru. Yn sicr, dydyn ni ddim ‘i gyd yn hyn gyda’i gilydd’ fel mae’r Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn honni.
“Cymru, ynghyd â’r Alban a gogledd Lloegr, fydd yn dioddef pen trymaf baich y toriadau i nawdd cymdeithasol, ac fe fydd effaith hyn yn enfawr.
“Mae llawer o deuluoedd sydd ar hyn o bryd yn ymdrechu i gadw eu pennau uwchlaw’r don yn awr yn cael eu taflu i ddyfnder tlodi.
“Hefyd, fe fydd effaith enfawr ar economi Cymru na fydd yn gallu goddef colli biliwn o bunnoedd heb i neb ddioddef.
“Yn anorfod, bydd y busnesau bach lleol sy’n gwasanaethu eu cymunedau lleol ac yn ffurfio asgwrn cefn economi Cymru o raid yn dioddef.
“Mae Plaid Cymru yn benderfynol o wrthdroi economi Cymru ond pan fod San Steffan yn creu polisi mor ddinistriol â hyn i gyllidebau aelwydydd, yna mae’r dasg yn anoddach fyth.”
Ychwanegodd Ms Wood: “Mae’n bwysig iawn nodi y bydd y newidiadau hyn mewn gwirionedd yn dwyn ymaith y cymhelliant i weithio oddi wrth fwy o bobl nac y byddant yn helpu.
“Dangosodd asesiad effaith yr Adran Gwaith a Phensiynau ei hun o gredyd cynhwysol y bydd 2.1 miliwn o bobl ledled y DG mewn gwirionedd yn wynebu llai o gymhelliant i gymryd swydd. Nid mater o adfer tegwch yw’r newidiadau hyn na gwneud i waith dalu.
“Mae consensws San Steffan ar lawer agwedd o ddiwygio budd-daliadau, nas gwrthwynebwyd gan y Blaid Lafur yn ystod pleidleisiau hanfodol yn Nhŷ’r Cyffredin, yn gyfrifol am lawer o bethau.”
Meddai Hywel Williams AS: "Mae’r ymchwil damniol hwn yn dangos yn eglur yr effaith anghymesur gaiff newidiadau lles y Glymblaid ar Gymru.
"Dengys y ffigyrau hyn mai’r ardaloedd sydd leiaf abl i ymdopi â thoriadau pellach – hynny yw, y sawl sydd eisoes yn dioddef effeithiau amddifadedd a diweithdra – yw’r rhai fydd yn cael eu taro galetaf.
"Mae hyn yn hollol anghywir o ran egwyddor ac arfer, ac y mae’n dangos mai ideoleg yn unig sydd yn gyrru polisïau’r ConDemiaid.
"Mae’r polisïau hyn yn cael eu gwneud yn waeth gan fod Llafur wedi derbyn y newidiadau lles yn llywaeth, heb sôn am fod wedi gwrthod pleidleisio yn erbyn toriad mewn treth i filiwnyddion a Mesur y Llywodraeth sydd yn cosbi pobl sy’n chwilio am waith.
"Yn erbyn cefndir economaidd enbyd, mae Plaid Cymru yn parhau i herio’r polisi o lymder a’i feiau niferus, a bydd yn gwthio am newidiadau blaengar megis cyflog byw a mesurau i fynd i’r afael â thlodi bwyd a thanwydd fydd yn helpu’r bobl hynny sydd ar hyn o bryd yn talu’r pris am fethiannau’r Llywodraeth hon."