Mwy o Newyddion
Cymorth treth cyngor yn diogelu 330,000 o aelwydydd yng Nghymru
O 1 Ebrill ymlaen mae cynlluniau ar gael yng Nghymru i helpu aelwydydd i dalu eu treth gyngor.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi diddymu budd-dal y dreth gyngor fel rhan o'r agenda diwygio lles. Mae cynlluniau newydd Llywodraeth Cymru yn disodli'r budd-dal hwnnw.
Heblaw hynny, mae'r llywodraeth glymblaid wedi cwtogi o leiaf 10 y cant ar yr arian sydd ar gael ar gyfer cynlluniau newydd. Mae Gweinidogion Cymru wedi herio'r gostyngiad hwn dro ar ôl tro, ac maen nhw'n dal yn pryderu'n fawr am oblygiadau ariannol y diwygiadau lles i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgwyddo'r cyfrifoldeb am ddatblygu trefniadau newydd i helpu aelwydydd Cymru i dalu eu treth gyngor. Mae llawer o waith wedi'i wneud gyda llywodraeth leol i liniaru'r effaith ar hawlwyr ac i sicrhau fod y trefniadau newydd yn gadarn ac yn fforddiadwy.
Ar gyfer 2013/14 mae Llywodraeth Cymru hefyd yn rhoi £22 miliwn arall fel bod awdurdodau lleol yn medru rhoi'r swm llawn o gymorth i hawlwyr cymwys, er gwaethaf y cwtogi a fu ar y cyllid gan Lywodraeth y DU.
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Llywodraeth Leol: "Mewn cydweithrediad â llywodraeth leol, rydyn ni wedi cyflwyno cynlluniau i roi cymorth ariannol hanfodol i oddeutu 330,000 o aelwydydd yng Nghymru.
"Mae'r cyllid ychwanegol a ddarparwyd gennym yn golygu y bydd rhai o'n hunigolion mwyaf agored i niwed yn cael eu diogelu rhag toriadau Llywodraeth y DU ar gymorth y dreth gyngor."
Llun: Lesley Griffiths