Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Ebrill 2013

Cyfleoedd busnes ar yr Arfordir Euraidd

Mae angen syniadau gwych ynghylch datblygiadau a digwyddiadau mawr i gynnal Parc Arfordirol y Mileniwm a Pharc Gwledig Pen-bre, yn Llanelli.

Mae'r perchnogion, Cyngor Sir Caerfyrddin, yn chwilio am fynegiannau o ddiddordeb mewn perthynas â chynigion busnes blaengar i wireddu potensial llawn y lleoliadau ysblennydd hyn.

Mae'r arfordir euraidd yn boblogaidd dros ben ac mae Meysydd Gŵyl Llanelli ym Mharc Arfordirol y Mileniwm (PAM) wedi'u dewis eto yn lleoliad ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Cynhaliwyd yr Eisteddfod yno pan agorodd PAM yn 2000.

Gyda'i gilydd, mae'r parciau yn denu mwy o ymwelwyr bob blwyddyn nag unrhyw atyniad awyr agored arall yng Nghymru.

Dywedodd y Cynghorydd Meryl Gravell, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros y Gwasanaethau Hamdden: “Mae gennym barciau gwych ond nid oes arian gan y cyngor yn y cyfnod anodd hwn i'n galluogi i symud ymlaen a'u datblygu.

“Mae arnom angen cymorth gan entrepreneuriaid dychmygus er mwyn inni symud ymlaen a pheidio ag aros yn ein hunfan.

“Gall y sector preifat chwarae rôl bwysig i'n helpu i gyflawni'r nod hwn. Rydym eisiau clywed gan unrhyw un sydd ag uchelgais ac sy'n rhannu'r weledigaeth.

“Mae Parc Gwledig Pen-bre wedi colli cyfle i gael swm enfawr o refeniw eleni, gan ei fod wedi colli Beach Break Live. Rhaid inni gael y mathau hyn o ddigwyddiadau ar hyd ein harfordir.

“Yn ystod y tair blynedd pan gynhaliwyd Beach Break, gwelsom fod Pen-bre a PAM yn cynnig cyfle arbennig i greu cyrchfan genedlaethol, neu ryngwladol hyd yn oed, i ymwelwyr.

“Mae'r seilwaith yn gadarn yn ei le ar hyd mwy nag 20 milltir o'r arfordir, gan gynnig amrywiaeth eang o gyfleusterau i ymwelwyr.”

Dywedodd Ian Jones, Pennaeth Hamdden: “Nid ydym yn gwerthu'r parciau; rydym yn adeiladu ar eu llwyddiant. Er y byddwn yn parhau i reoli'r ddau barc, rydym eisiau gweithio gyda mudiadau partner blaengar i gynnig y cynnyrch gorau posibl i'n cwsmeriaid.

“Rydym eisiau cynyddu nifer y bobl sy'n ymweld â'r darn euraidd hwn o arfordir Gorllewin Cymru drwy gynnig iddynt ystod hyd yn oed fwy cyfoethog o weithgareddau diddorol a chyffrous a fydd yn ychwanegu at WOW ffactor y lleoliad godidog hwn.”

Yn ôl Mr Jones, gallai'r cynigion gynnwys cymryd cyfrifoldeb am gyfleusterau presennol, a'u gwella, darparu atyniadau a gweithgareddau hamdden newydd, a threfnu digwyddiadau. Hefyd, gallent ystyried ychwanegu llety gwyliau, megis chalets neu garafanau, gan ddefnyddio mannau nad ydynt yn cael eu defnyddio'n ddigonol, a chynnwys cymunedau mewn prosiectau.

Os oes arnoch angen gwybodaeth bellach a chopi o'r fframwaith ar gyfer datblygu arfordir Llanelli, cysylltwch â hamdden@sirgar.gov.uk . Dylid cyflwyno mynegiannau o ddiddordeb erbyn Mai 3, 2013.

 

Llun: Mae tref Llanelli yn elwa o'i chysylltiadau agos â'r arfordir. Yn nhu blaen y llun y mae datblygiad Porth y Dwyrain a gostiodd £26 miliwn ac, yn y canol, y mae'r Meysydd Gŵyl, sef safle'r Eisteddfod Genedlaethol, sy'n rhan o Barc Arfordirol y Mileniwm a gostiodd £31 miliwn. Llun: Jeff Connell

 

Rhannu |