Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Ebrill 2013

Cymru efo'r gyfradd golli swyddi uchaf yn y DG

Mae Plaid Cymru wedi galw am weithredu brys wedi i ffigyrau ddangos fod y gyfradd golli swyddi yng Nghymru ddwywaith yn fwy na chyfradd rhai rhanbarthau o Loegr.

Yn ôl ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Genedlaethol (SYG), mae gan Gymru gyfradd colli swyddi o 10 am bob 1,000 gweithiwr ym mhedwerydd chwarter 2012. 

Mae hyn yn cymharu â chyfradd colli swyddi o ddim ond 4.9 i Dde-Ddwyrain Lloegr a 5 i Ogledd-Orllewin Cymru dros yr un cyfnod o amser. Cyfradd colli swyddi’r DG gyfan oedd 5.8.

Dywedodd Alun Ffred Jones AC, llefarydd Plaid Cymru ar yr Economi yn y Cynulliad, ei bod yn bryd i Lywodraeth Cymru gynnig cymorth.

“Mae llawer gormod o weithwyr yn cael eu diswyddo, yn ôl y ffigyrau diweddaraf,” meddai Mr Jones. “Rydym eisoes wedi gweld Cymru yn dioddef baich trymaf y dirwasgiad pan ddaw’n fater o gyfraddau diweithdra a ffyniant y genedl. 

“Dengys y ffigyrau diweithdra diweddaraf fod 8,000 yn fwy o ddynion yng Nghymru allan o waith na 3 mis yn ôl, oedd wedi dileu unrhyw enillion a gafwyd o adferiad bychan yn yr economi yr haf diwethaf.

“Nawr mae gennym fwy o gadarnhad o’r ffyrdd mae’r wlad yn dioddef trwy’r data ar gyfraddau colli swyddi sy’n dangos eich bod ddwywaith yn debygol o golli eich swydd os ydych yn byw yng Nghymru o gymharu â rhai rhanbarthau yn Lloegr. 

“Mae hyn yn tanlinellu’r angen am ddatganoli rhai o’r prif fecanweithiau economaidd i Gymru. Yn y tymor byr, mae hefyd yn tanlinellu’r angen am ymateb sydyn gan Lywodraeth Cymru gyda’r pwerau a’r adnoddau sydd ar gael iddynt.”

Yn ystod Llywodraeth Cymru’n Un, yr oedd Mr Jones mewn Adran economi a greodd y cynlluniau ReAct a ProAct mewn ymateb i ddyfodiad y dirwasgiad. 

Amcangyfrifwyd fod miloedd o swyddi wedi eu diogelu dros einioes cynllun ProAct yn benodol. Daeth adroddiad gwerthuso effaith ar ProAct i’r casgliad canlynol: “Amcangyfrif gofalus o werth y swyddi hyn yw £74.7m.”

Ychwanegodd yr adroddiad: “Mae cyfanswm y cyfraniad GVA o gefnogaeth ProAct felly yn £94.8m o’r gwerthiannau ychwanegol y llwyddodd hyfforddiant ProAct i fusnesau sicrhau a gwerth y swyddi a ddiogelwyd.

“Yr oedd cyfanswm cost y rhaglen yn £27m. Golyga hyn fod £3.51 o GVA wedi ei gynhyrchu am bob £1 a wariwyd ar ProAct.”

Ychwanegodd Mr Jones: “Mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried yn ofalus sut i gywiro’r ffigyrau colli swyddi hyn am eu bod yn rhy uchel o bell ffordd.

“Efallai y bydd angen pecyn o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i gwmnïau sydd yn ei chael yn anodd i gadw’r ddysgl yn wastad yn y cyfnod economaidd anodd hwn. 

“Yn sicr, bydd cwmnïau yn cyflogi, gyda’i gilydd, gannoedd os nad miloedd o weithwyr yng Nghymru, fydd angen help i gadw staff yn eu gwaith cyn i ni ddychwelyd i gyfnod o dwf economaidd estynedig a chyson.”

Llun: Alun Ffred Jones AC

Rhannu |