Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Ebrill 2013

Llywodraeth Cymru am wneud yr hyn y gall i helpu ffermwyr

Mae’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, Alun Davies, yn crwydro Powys heddiw i gwrdd â ffermwyr lleol a chynrychiolwyr Undeb i drafod y problemau sy’n eu hwynebu yn sgil y tywydd mawr diweddar.

Mae’r Gweinidog yn awyddus i fynd i’r afael ag effaith y tywydd difrifol ar ffermwyr ledled Cymru ac mae hyn yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru meddai.

Dywedodd Alun Davies “Rwy’n ymwybodol iawn o’r anawsterau mawr y mae ffermwyr Cymru’n dygymod â nhw oherwydd y tywydd difrifol ac rwyf wedi bod yn cadw golwg fanwl ar y sefyllfa. Bydd heddiw’n gyfle i drafod wyneb yn wyneb y problemau sy’n wynebu ffermwyr ac i ni ystyried sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i’w datrys.

“Mae hi’n dal i fod yn dymor wyna yn rhai ardaloedd yng Nghymru, tymor prysuraf blwyddyn y ffermwr defaid.  Mae’r tywydd cas wedi ychwanegu at y straen sydd arnynt.

“Yn ôl ffermwyr sydd wedi siarad â fi, un o’r problemau mwyaf sy’n eu hwynebu yw sut i ddelio â stoc marw.

“Mae Llywodraeth Cymru’n awyddus i wneud yr hyn y gall i helpu’r ffermwyr hyn i ddelio â’u stoc marw mor ddiogel a chyflym â phosibl.

“Dyna pam fy mod wedi penderfynu llacio’r rheolau am gyfnod dros dro yn yr ardaloedd sydd wedi dioddef waethaf, ond heb aberthu’r egwyddor gyffredinol y dylai’r ffermwr fynd â’i stoc marw o’i fferm lle bynnag y bo hynny’n bosibl. Felly, os na fydd casglwyr stoc marw yn gallu cyrraedd fferm, mae gan y ffermwr yr hawl bellach i gladdu ei ddefaid, ŵyn neu loi yn unol â rheoliadau Ewrop a Chymru.”

Canmolodd y Gweinidog y ffermwyr hefyd am gadw’n agored y cymunedau sydd wedi dioddef gan yr eira.

Ychwanegodd: “Mae llawer o’n ffermwyr a’u teuluoedd wedi chwarae eu rhan i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau angenrheidiol yn gallu cyrraedd y cymunedau gwledig yn rhai o ardaloedd y Canolbarth a’r Gogledd sydd wedi dioddef waethaf.  Hoffwn dalu teyrnged iddynt am eu gwaith caled yn helpu ac yn cefnogi eu cymunedau.”

Llun: Alun Davies

 

Rhannu |