Mwy o Newyddion
Ymgynghoriad ar safle newydd i sipsiwn a theithwyr yn Abertawe
Mae mwy na 3,000 o bobl wedi mynegi eu barn yn Abertawe fel rhan o ymgynghoriad ledled y ddinas ar gynlluniau am safle i sipsiwn a theithwyr.
Mae Cyngor Abertawe wedi cyhoeddi cynigion ar gyfer sefydlu ail safle parhaol yn y ddinas oherwydd bod y safle presennol yn Heol Pantyblawd yn llawn.
Mae'r cyngor bellach wedi cau'r ymgynghoriad a oedd yn agored i drigolion am fwy na thri mis.
Mae Grwp Tasg a Gorffen a arweiniwyd gan Aelod eisoes wedi edrych ar yr holl dir sy'n eiddo i'r cyngor yn y ddinas yn erbyn meini prawf a bennwyd. Mae'r gwaith wedi arwain at nifer o safleoedd yn cyrraedd y rhestr fer o dros 1,000 at ddefnydd posib.
Meddai June Burtonshaw, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Leoedd: "Rydym wedi cael ymateb ardderchog gan drigolion. Mae'r dasg o ddarganfod safle newydd yn un y mae'r trigolion yn amlwg yn teimlo'n gryf iawn amdani ac mae hyn yn amlwg o'r nifer o ymatebion a gafwyd. Bydd yr holl wybodaeth a dderbyniwyd yn cael ei hystyried fel rhan o gam nesaf y broses."
Yn ystod yr ymgynghoriad, roedd llawer o wybodaeth ar gael i'r cyhoedd er mwyn i drigolion gael gwell dealltwriaeth o'r cynigion presennol. Crëwyd gwefan a oedd yn cynnwys manylion mwy na 1,000 o safleoedd a ystyriwyd fel rhan o'r astudiaeth gychwynnol.
Bydd adroddiad bellach yn cael ei lunio a fydd yn amlygu'r pwyntiau a godwyd gan drigolion gan roi gwell dealltwriaeth i'r cyngor o sut mae'r cyhoedd yn teimlo cyn dewis safle. Yna byddai'r safleoedd a ddewisir yn gofyn am ganiatâd cynllunio.
Llun: June Burtonshaw